Hedd Wyn (bardd)
Hedd Wyn oedd enw barddol Ellis Humphrey Evans (13 Ionawr 1887 – 31 Gorffennaf 1917), bardd o bentref Trawsfynydd, Gwynedd a ddaeth yn symbol o golli cenhedlaeth o ieuenctid Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf.
Cynhyrchodd Paul Turner ffilm amdano o'r enw Hedd Wyn, ffilm a enwebwyd am Oscar yn y categori ffilm dramor orau yn 1992, gyda Huw Garmon yn chwarae y brif ran.
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
golyguAtgo
golyguDim ond lleuad borffor
Ar fin y mynydd llwm,
A sŵn hen afon Prysor
Yn canu yn y cwm.
Rhyfel
golyguGwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
A Duw ar drai ar orwel pell;
O'i ol mae dyn, yn deyrn a gwreng,
Yn codi ei awdurdod hell.
Pan deimlodd fyned ymaith Dduw
Cyfododd gledd i ladd ei frawd;
Mae swn yr ymladd ar ein clyw,
A'i gysgod ar fythynnod tlawd.
Mae'r hen delynau genid gynt,
Ynghrog ar gangau'r helyg draw,
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt,
A'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.
Dynes Dda
golyguDynes fu lawn daioni, – a'i rhydd fron
Mor ddi-frad â'r lili;
Dylai bro wen ei geni
Roi llech aur ar ei llwch hi.
Dymuniad
golyguDymunwn fod yn flodyn – a'r awel
Garuaidd yn disgyn
Arnaf i yn genlli gwyn
Oddi ar foelydd aur-felyn.
MEWN ALBUM
golyguCERDDA rhai adwaenom heno
Ewrop bell ddi-gainc,
Lle mae dafnau gwaed ar fentyll
Prydain Fawr a Ffrainc.
Cysga eraill a adwaenom
Yn y fynwent brudd;
Lle maer awel fyth yn wylo,
Wylo nos a dydd.
Troeog iawn yw llwybrau bywyd
Megis gwynt yr hwyr;
Pa le'n cludir ninnau ganddo,
Duw yn unig ŵyr.