Hedd Wyn (ffilm)
Ffilm Gymraeg am fywyd y bardd Hedd Wyn yw Hedd Wyn. Cafodd ei henwebu am Oscar ym 1994. Huw Garmon sy'n serennu fel Hedd Wyn. Ysgrifennwyd y sgript gan Alan Llwyd a chyfarwyddwyd y ffilm gan Paul Turner.
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
golygu- Am ganrifoedd arferai pobl Geltaidd Prydain anrhydeddu’r beirdd drwy roi eu cadair eu hunain iddyn nhw yn llysoedd y brenhinoedd a’r tywysogion. Mae’r traddodiad hwn wedi goroesi yn yr Eisteddfod fodern lle cyflwynir cadair i awdur y gerdd draddodiadol orau.
Ym 1917, yn mhedwaredd flwyddyn y Rhyfel Mawr, cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Birkenhead.- Geiriau agoriadol y ffilm a welir y geiriau ar y sgrîn.
- "Blydi gynna'"
- Ymateb Elis pan gynnau'n cael eu tanio ar fynyddoedd Trawsfynydd wrth iddo yntai geisio barddoni.
- Os ydy’r bardd sy’n dwyn y ffugenw Fleur de Lis yn bresennol, safed ar ei draed.
- ‘Hen lanc fyddi di Ellis’.
’Gad i fi fod yn llanc ifanc gynta’- Geiriau ei chwaer Magi wrth Elis (Hedd Wyn) a'i ymateb yntai.
- Mae Arianhod hefo fi...Ar noson fel heno fydda i’n meddwl weithiau mai Arianrhod sy’n sgwennu’r pethau yma i mi, mae’n goleuo nychymyg i, gafael yn fy llaw i ac yn dangos rhyfeddodau’r bydysawd i mi.
- Ymateb Elis i eiriau ei chwaer Mary. Esbonia mai wrth Arianrhod (Duwies Celtaidd y lleuad) / Merch y Drycinoedd y mae'n derbyn ei ysbrydoliaeth.
- Er oedi’n wasgaredig – hyd erwau
Y tiroedd pellennig.
Duw o’i ras o lanwo’ch trig
A dialar Nadolig.
Rhai o’r hen bererinion – oedd unwaith.
Yn ddiddanwch Seion.
Aethant o’n hardal weithion.
I’r wlad well dros feryl don.
Eraill aeth dros y gorwel – i feysydd
Difiwisig y rhyfel;
Uwch eu cad boed llewych cêl
Adenydd y Duw anwel.
- Geiriau o un o gerddi Hedd Wyn a drosleisir yn y ffilm