Wikiquote:Llawlyfr arddull: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Rhodri77 (sgwrs | cyfraniadau)
Ehangu
Llinell 6:
 
Cymrwch gipolwg ar [[Wiciquote:Canllaw ar gyfer diwyg]] am rai awgrymiadau syml ar sut i osod erthygl ar dudalen.
 
== Cyflwyniadau ==
Dylai dechrau erthyglau gyda paragraff agoriadol bychan. Gellir gwneud hyn gydag adrannau hefyd. Dylai cyflwyniadau i erthyglaugynnig disgrifiad bras o bwnc yr erthygl; cysylltu ag erthygl [[w:Prif Dudalen|Wicipedia]] am unrhyw fanylion pellach. Dylid ysgrifennu cyflwyniadau mewn brawddegau llawn.
 
Dylai cyflwyniadau i erthyglau gyfeirio at deitl yr erthygl ac unrhyw enwau gwahanol os oes enwau amgen gan yr un pwnc. Ar gyfer erthyglau am berson neu thema, dylai'r cyfeiriad cyntaf fod mewn testun '''bras'''; ar gyfer pynciau fel teitlau llyfrau sy'n ymddangos mewn testun ''italig'' gan amlaf, dylai'r cyfeiriad cyntaf fod mewn testun '''''bras italig'''''.
* Digrifwr a nofelydd [[w:Unol Daleithiau|Americanaidd]] oedd '''Samuel Langhorne Clemens''', a adwenir hefyd fel '''[[w:Mark Twain|Mark Twain]]''' (1835–1910). …
** <nowiki>Digrifwr a nofelydd [[w:Unol Daleithiau|Americanaidd]] oedd '''Samuel Langhorne Clemens''', a adwaenir hefyd fel '''[[w:Mark Twain|Mark Twain]]''' (1835&ndash;1910). </nowiki> &hellip;
 
* Mae '''''[[w:Hamlet|The Tragedy of Hamlet, Prince of Denmark]]''''' yn ddrama drasiedi gan [[William Shakespeare]] ac mae'n un o'i ddramau enwocaf. &hellip;
** <nowiki>Mae '''''[[w:Hamlet|The Tragedy of Hamlet, Prince of Denmark]]''''' yn ddrama drasiedi gan [[William Shakespeare]] ac yn un o'i ddramau enwocaf.</nowiki> &hellip;
 
Dylai erthyglau am bobl gynnwys blynyddoedd geni a marw'r awdur o leiaf, os ydynt yn hysbys. Dylid gwahanu dyddiadau geni a marwolaeth gyda ''en dash'', "&ndash;". Mae hyn a nifer o symbolau eraill a allai fod yn ddefnyddiol wrth drawsgrifo enwau a thestun gwreiddiol ar gael mewn blwch ar waelod y tudalennau golygu a rhagolwg. (Yr en dash yw'r symbol cyntaf a ddangosir.) Os yw'r awdur dal yn fyw, ysgrifennwch "(ganed dyddiad geni)" neu "(g. dyddiad geni)", nid "(yyyy&ndash;)".
 
Mae cyflwyniadau i erthyglau yn fwyaf pwysig ar gyfer dyfyniadau gan bobl neu weithiau nas adnabyddir yn fyd-eang. Bydd cyflwyniad effeithiol yn cynorthwyo Wiciddyfynnwyr eraill i ddarganfod mwy am y pwnc a chwilio am ddyfyniadau ychwanegol a allai fod yn berthnasol i'r erthygl. (Yn yr un modd, gall cyflwyniad gwael arwain at erthygl yn cael [[Wiciquote:Pleidleisiau dros ddileu|ei chynnig i'w dileu]], os nad oes unrhyw olygydd arall yn medru dod o hyd i ddigon o wybodaeth am bwnc yr erthygl.)
 
Dylid defnyddio cyflwyniadau adrannol er mwyn darparu gwybodaeth bellach am gyd-destun is-set penodol o ddyfyniadau a geir yn yr erthygl. Mewn achos gyffredin o adran mewn erthygl am waith penodol neu berson, gall y cyflwyniad gynnwys manylion llyfryddiaeth am y gwaith, fel nad oes angen eu hail-adrodd ar gyfer pob dyfyniad.
 
 
[[Categori:Wikiquote|Llawlyfr arddull]]