Wikiquote:Dyfyniad y dydd/Mawrth 1, 2010
Dros Gymru'n gwlad, O Dad, dyrchafwn gri, y winllan wen a roed i'n gofal ni; d'amddiffyn cryf a'i cadwo'n ffyddlon byth, a boed i'r gwir a'r glân gael ynddi nyth; er mwyn dy Fab a'i prynodd iddo'i hun, O crea hi yn Gymru ar dy lun. O deued dydd pan fo awelon Duw yn chwythu eto dros ein herwau gwyw, a'r crindir cras dan ras cawodydd nef yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo ef, a'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen yn seinio fry haeddiannau'r addfwyn Oen. ~ Lewis Valentine ~ |