Wikiquote:Chwilio

I chwilio yn Wiciquote:

  • Dylai fod blwch chwilio bach ar ochr y sgrîn, sy'n dweud chwilio, ac oddi tano, gwelir y botymau Mynd a Chwilio. Teipiwch yr hyn rydych chi'n chwilio amdano yn y blwch chwilio a gwasgwch yr allweddell Enter. Neu, cliciwch Mynd neu Chwilio.

Y gwahaniaeth rhwng Mynd (sydd yr un peth ag "enter") a Chwilio yw fod Mynd yn chwilio am erthygl sydd a'r teitl yn cyfateb i'r hyn a deipiwyd yn y blwch chwilio. Os daw o hyd i erthygl, bydd yn mynd yn uniongyrchol at yr erthygl honno. Os nad yw Mynd yn dod o hyd i erthygl, yna bydd yn cynnal chwiliad awtomatig sydd yn chwilio am unrhyw erthyglau sy'n cynnwys y geiriau a deipiwyd i mewn i'r blwch chwilio. Cyngor chwilio pwysig:

  • Pan nad yw Chwilio Wiciquote yn gweithio am resymau perfformiad, gellir defnyddio Mynd o hyd er mwyn chwilio am dudalennau gyda theitlau.
  • Peidiwch a chwilio am eiriau yn unig mewn dyfyniadau. Ceisiwch chwilio heb ddyfyniadau i ddechrau. Os nad yw hynny'n ddigon da, rhowch cynifer o eiriau a phosib y tu allan i'r dyfyniad neu ychwanegwch mwy o eiriau er mwyn cyfyngu'r chwiliad.
  • Tra bod Mynd fel arfer yn sensitif i brif lythrennau a llythrennau bychain, mae Chwilio bob amser yn ansensitif i brif lythrennau.
  • Weithiau, defnyddir Chwilio fel adnodd eilradd o feddalwedd MediaWiki ac mae weithiau'n annibynadwy ac hyd yn oed yn cael eu ddiffodd yn llwyr am resymau perfformiad. Os nad ydych yn medru dod o hyd i rywbeth roeddech yn disgwyl gweld, defnyddiwch beriant chwilio allanol os gwelwch yn dda.

Peiriannau chwilio allanol

golygu

Gall amryw o beiriannau chwilio allanol ddarparu chwiliadau o fewn gwefan benodol, sy'n eich galluogi i chwilio yn Wikiquote yn benodol. Seilir chwiliadau ar y testun fel y mae'n ymddangos yn y porwr ac felly mae fformatio'r wici'n amherthnasol. Yn dibynnu ar eich porwr, mae'n bosib y gallwch ddefnyddio offer sy'n eich galluogi i chwilio Wiciquote gan ddefnyddio nodlyfrau.

Yn gyffredinol, mae peiriannau chwilio allanol yn gynt na chwiliad ar Wiciquote. Fodd bynnag, am fod cache y peiriant chwilio yn seiliedig ar pryd cafodd y wefan ei fynegi, mae'n bosib na fydd y chwiliad yn dychwelyd tudalennau sydd newydd gael eu creu. Yn yr un modd, ni fydd feriwn cache yy peiriant chwilio o'r dudalen mor ddiweddar a'r ddolen i'r Wiciquote ei hun.

Gall y materion hyn beri llai o broblem pan yn defnyddio peiriannau chwilio penodol sy'n prosesu Wiciquote mewn ffordd wahanol:

  • Mae Yahoo! yn cynnwys Wiciquote fel rhan o'i rhaglen canfod gwybodaeth a chaiff ei fwydo â data'n rheolaidd.
  • Mae Clusty yn lawrlwytho a phrosesu'r cronfa ddata'n rheolaidd, gan greu lluniau bawd a defnyddio ailgyfeiriadau a thudalennau gwahaniaethu, a chategorïau yn ystyrlon.

Google

golygu

Trwy ddilyn y dolenni isod, gallwch ddefnyddio beiriant chwilio Wicipedia:Google i chwilio Wiciquote - naill ai ymhob iaith, neu yn Saesneg yn unig. Mae Google yn creu mynegai o bob gofod enw.

Os ydych yn chwilio'n rheolaidd gan ddefnyddio Google, ystyriwch osod y bar offer Google ar eich cyfrifiadur. Mae defnyddio'r botwm "search this site" yn eich galluogi i chwilio'r fersiwn Saesneg o Wikiquote. Mae'r fersiwn swyddogol o Far Offer Google ar gyfer Wikipedia:Internet Explorer (Windows yn unig) ac ar gyfer Firefox (yn gweithio ar bob system gweithredu sydd ar gael ar gyfer Firefox, megis Windows, Wikipedia:Linux a Wikipedia:Mac OS X).

Yahoo!

golygu

Trwy ddefnyddio'r dolenni isod, gallwch ddefnyddio peiriant chwilio Wicipedia:Yahoo! er mwyn chwilio Wiciquote - naill ai ymhob iaith neu yn Saesneg yn unig.

Os ydych yn chwilio gan ddefnyddio Yahoo! yn rheolaidd, ystyriwch osod y bar offer Yahoo! Companion ar eich cyfrifiadur. Mae defnyddio'r botwm "Search Only the Current Site" yn eich galluogi i chwilio'n gyflym am y fersiwn Saesneg o Wiciquote. Mae'r Bar Offer Yahoo! Companion ar gael ar gyfer Windows gydag Internet Explorer a Mozilla yn unig.

Clusty

golygu

Trwy ddefnyddio'r ddolen isod, gallwch ddefnyddio peiriant chwilio Wicipedia:Clusty er mwyn chwilio Wikiquote yn Saesneg yn unig.

Os ydych yn chwilio gan ddefnyddio Clusty yn rheolaidd, ystyriwch osod y Bar offer Clusty (beta) ar eich cyfrifiadur. Bydd dewis y chwiliad "Encyclopedia" yn eich galluogi i chwilio'r fersiwn Saesneg o Wikiquote yn gyflym. Mae'r bar offer Clusty ar gael ar gyfer Windows gyda Wicipedia:Internet Explorer a Wicipedia:Mozilla Firefox (beta).

LuMriX

golygu

Trwy ddilyn y ddolen isod, gallwch ddefnyddio peiriant chwilio LuMriX i chwilio Wikiquote - naill ai yn Saesneg, Almaeneg, Ffrangeg neu Iseldireg.

Os ydych yn chwilio'n rheolaidd gan ddefnyddio LuMriX, ystyriwch osod y LuMriX Firefox Search Plugin (sy'n gweithio ar bob platfform system gweithredu lle mae Firefox ar gael, megis Windows, Wikipedia:Linux a Wikipedia:Mac OS X).

Offer chwilio Wiciquote

golygu

Ymddengys offer chwilio Wiciquote ar ffurf blwch chwilio a botwm Chwilio a welir ar bob tudalen. Nid yw ar gael yn ystod prif oriau defnydd y dydd a chyfnodau eraill o weithgarwch serfyr dwys (a allai bara am ddyddiau). Dyma rai cynghorion ynglyn â sut i'w ddefnyddio'n effeithiol (gweler hefyd Wiciquote:Cymorth dewisiadau defnyddiwr, yr adran "Gosodiadau canlyniadau chwilio", a Wiciquote:Botwm Mynd).

Cyfyngu canlyniadau

golygu

Bydd gosodiad chwilio awtomatig Wiciquote yn canfod pob canlyniad sy'n cynnwys y geiriau sy'n cyfateb i'ch ymholiad. Er enghraifft, bydd y Wicipedia:peiriant chwilio yn canfod nifer o ganlyniadau sy'n cynnwys "chwilio" yn unig ond dim "peiriant" neu'r gair "peiriant" yn unig ond nid y gair "chwilio" yn ogystal â'r rhai roeddech chi yn chwilio amdanynt, sydd yn cynnwys y ddau air.

Er mwyn cyfyngu'r chwiliad i gynnwys canlyniadau sy'n cynnwys pob gair, rhowch "+" ar ddechrau pob gair: +peiriant +chwilio a bydd hyn yn dychwelyd tudalennau sy'n cynnwys y ddau air yn unig, yn debyg i fersiwn awtomatig Google.

Gallwch gynnwys chwiliad ymadrodd hefyd drwy gynnwys geiriau mewn dyfynodau: bydd "peiriant chwilio" yn canfod casgliad llai o ganlyniadau, lle ceir nid yn unig y geiriau ond maent yn y drefn gywir hefyd.

Er mwyn peidio cynnwys canlyniadau sy'n cynnwys gair penodol, rhowch "-" ar y dechrau: -peiriant -chwilio

Osgowch eiriau byr a chyffredin

golygu

Os yw termau'ch ymholiad yn cynnwys "gair stop" cyffredin (megis "y", "un", "eich", "mwy", "dde", "tra", "pan", "pwy", "pa", "math", "pob", "tua") caiff ei anwybyddu gan y system chwilio. Os ydych yn ceisio chwilio am ymadrodd neu chwiliad pob-gair-yn-unig, gallai hyn arwain at ddim byd yn cael ei ddychwelyd. Ni ddaw'r system o hyd i rifau byrion, a geiriau a ymddengys mewn hanner o bob erthygl chwaith. Mewn achos fel hyn, lleihewch y nifer o eiriau ac ail-redwch y chwiliad.

Gweler Wiciquote:Geiriau cyffredin - mae chwilio amdanynt yn amhosib am y geiriau stop a hidlir gan y gronfa ddata. O'r fan honno, gellir mynd at erthygl gyda gair stop fel teitl o leiaf. Achosa chwilio am gyfuniad o un neu fwy nag un o eiriau a'r gair cyffredin "nid/nad" i'r ymholiad cronfa ddata gael gwall cystrawen oherwydd byg yn y feddalwedd.

Prif lythrennau

golygu

Mae Chwilio bob amser yn ansensitif i brif lythrennau, ac felly bydd chwiliadau am "fortran", "Fortran" a "FORTRAN" i gyd yn dychwelyd yr un canlyniadau.

Mae Mynd bob amser yn ansensitif ar gyfer llythren gyntaf teitl yr erthygl, ac yn y mwyafrif o achosion y teitl yn ei chyfanrwydd. Mae Mynd yn sensitif i brif lythrennau os oes gan erthygl deitl sy'n cynnwys cymysgedd o brif lythrennau a llythrennau bychaon yn unig, ac nid yw'n gsyon o ran maint y llythrennau trwy gydol y gair. Er enghraifft, ystyriwch yr erthygl Rhyfeloedd Ffrainc ac India. Ni fydd teipio 'rhyfeloedd ffrainc ac india' a chlicio ar "enter" neu Mynd yn mynd a'r darllenydd i'r erthygl. Fodd bynnag, bydd 'Rhyfelodd Ffrainc ac India' yn gweithio, yn yr un modd ag y bydd 'rhyfelodd Ffrainc ac India'. Os mai enw'r erthygl oedd 'Rhyfeloedd Ffrainc ac India' neu 'Rhyfeloedd ffrainc ac india' byddai'n dderbyniol defnyddio unrhyw amrywiaeth o brif lythrennau. Gellir defnyddio ailgyfeiriadau i weithio o amgylch y broblem hon. Er enghraifft, bydd unrhyw gamddefnydd o brif lythrennau tra'n chwilio am 'Yr Ynysoedd Dedwydd' yn cyfateb i Wicipedia:Yr ynysoedd Dedwydd sy'n ailgyfeirio'r defnyddiwr i'r erthygl gywir o'r enw Wicipedia:Yr Ynysoedd Dedwydd.

Cardiau Gwyllt

golygu

Os ydych chi wir eisiau, gallwch ddefnyddio cardiau gwyllt cyfyngedig. Chwiliwch am "fulltext search" ar http://www.mysql.com/ ac edrychwch i lawr o dan 'boolean search' am fanylion. Fodd bynnag, mae chwiliadau cardiau gwyllt yn arafach, felly cymrwch drueni dros y serfwr druan!

Words with special characters

golygu

In a search for a word with a Wikipedia:diaeresis, such as Sint Odiliënberg, it depends whether this ë is stored as one character or as "ë". In the first case one can simply search for Odilienberg (or Odiliënberg); in the second case it can only be found by searching for Odili, euml and/or nberg. This is actually a bug that should be fixed -- the entities should be folded into their raw character equivalents so all searches on them are equivalent. See also Wikiquote:Special characters.

Geiriau mewn dyfynodau unigol

golygu

Os ymddengys gair mewn erthygl gyda dyfynodau sengl, yr unig ffordd o ddod o hyd iddo yw drwy chwilio am y gair gyda dyfynodau. Am fod hyn ymhell o fod yn ddelfrydol, mae'n well defnyddio dyfynodau dwbl mewn erthyglau, er mwyn osgoi'r broblem hon. Gweler y canllaw arddull am fwy o wybodaeth.

Mae collnod yn union yr un peth a dyfynod sengl, ac felly gellir dod o hyd i Mu'ammar drwy chwilio am hynny'n union (a dim byd arall).

Chwilio gofod enwau'n awtomatig

golygu

Cyfeiria'r chwiliad hyn at ofod enwau a ddewiswyd yn newisiadau'r defnyddiwr. Er mwyn chwilio gofod enwau eraill, ticiwch neu dad-diciwch y blychau ticio yn y blwch "Chwilio gofod enwau" a welir ar waelod y dudalen canlyniadau chwilio. Yn dibynnu ar y porwr, gall blwch fod heb ei dicio o chwiliad blaenorol, ond heb fod yn effeithiol bellach! Er mwyn gwneud yn siwr, dad-diciwch y blwch ac ail-diciwch ef.

Golyga chwilio'r gofod enwau delweddau eich bod yn chwilio'r disgrifiadau o ddelweddau h.y. y rhannau cyntaf o'r tudalennau disgrifio delweddau.

Gellir peidio cynnwys ailgyfeiriadau yn eich chwiliad

golygu

Dewiswch neu dad-ddewiswch y blwch ticio "Rhestri ailgyfeiriadau" yn y blwch "Chwilio gofod enwau" a welir ar waelod y dudalen canlyniadau chwilio.

Chwilir y testun gwreiddiol

golygu

Chwilir y testun gwreiddiol (yr hyn a welir yn y blwch golygu, a elwir hefyd yn Wicipedia:wiki testun). Mae'r gwahaniaethu hyn yn bwysig ar gyfer dolenni piben, Wiciquote:dolenni rhyngieithol (i ddod o hyd i erthyglau Tsieineg, chwilio am zh, nid am Zhongwen), llythrennau arbennig (os codir ê fel ê gellir dod o hyd iddo drwy chwilio am ecirc), a.y.b.

Oedi wrth ddiweddaru'r mynegai chwilio

golygu

Am resymau o flaenoriaethu a phriodoli, ni welir newidiadau diweddar iawn yn syth mewn chwiliadau.

Ar hyn o bryd, defnyddia'r peiriant chwilio fynegai na sydd yn cael ei ddiweddaru o gwbl. Rhywbeth dros dro yw hyn.