Wikiquote:Anaddas ar gyfer Wiciquote

Mae hwn yn bolisi Wikiquote arfaethedig.
Mae wedi cael ei ysgrifennu gan un olygyddion / grŵp ac yn yr arfaeth trafodaeth mabwysiadu gan y gymuned.
Teimlwch yn rhydd i wneud newidiadau er ailysgrifennu dylid trafod os yn bosibl.
Polisïau a chanllawiau Wiciquote
Safonau erthyglau
Gweithio gydag eraill

Mae Wikiquote:Wikiquote yn disgrifio'n gryno beth yw Wikiquote, a beth yw ei nodau. Mae'r canlynol yn trafod beth sy'n anaddas ar gyfer Wikiquote.


Nid gwyddoniadur mo Wikiquote golygu

Nid yw Wikiquote yr un peth a'i chwaer brosiect, Wikipedia. Tra'r annogir darnau byrion yn cyflwyno pwnc y dyfyniadau er mwyn rhoi syniad i'r darllenydd am yr hyn y mae'r dyfyniadau'n ffocysu arno, nid oes angen cynnwys erthylgau llawn am y pwnc.

Nid geiriadur mo Wikiquote golygu

Nid yw Wikiquote yn addas ar gyfer diffiniadau geiriadurol, yn wahanol i'w chwaer brosiect Wiktionary. Gall dyfyniadau ymwneud â thema penodol, megis Cariad, ond nid unrhyw air ar ben ei hun.

Nid llyfr testun mo Wikiquote golygu

Nid casgliad o wybodaeth a geir mewn llyfrau testun neu lyfrau canllaw yw Wikiquote. Gweler Wikibooks.

Nid yw Wikiquote yn fan ar gyfer dogfennau eiddo cyhoeddus golygu

Nid casgliad o ddogfennau eiddo cyhoeddus fel codau ffynhonnell, dogfennau hanesyddol gwreiddiol, llythyron, cyfreithiau, llyfrau neu gerddi cyflawni mo Wikiquote.

Nid gwefan bersonol mo Wikiquote golygu

Nid Myspace ydy Wikiquote. Gall bob defnyddiwr cofrestredig greu tudalen amdanynt eu hunain fel Wikiddyfynnwr, ond ni ddylent ei ddefnyddio er mwyn postio negeseuon na sydd yn ymwneud â Wikiquote, megis CVs, dogfennau personol, a.y.y.b. Gweler Wikiquote:Tudalen defnyddiwr am fwy o wybodaeth am dudalennau defnyddwyr.

Nid casgliad o'ch dyfyniadau personol eich hun mo Wikiquote golygu

Gall unrhyw ddefnyddiwr osod dyfyniadau maen nhw neu ffrindiau wedi dweud ar eu tudaln defnyddiwr, ond ni ddylech greu eich tudalen eich hun yn y prif fforwm ar gyfer eich dyfyniadau eich hun.

Nid cyfeirlyfr ar y wê mo Wikiquote golygu

Mae erthyglau ar gyfer casgliadau o ddyfyniadau, nid dolenni di-gyswllt. Ni ddylech greu tudalennau dim ond er mwyn rhestru eich hoff wefannau, rhifau ffôn a gwybodaeth di-bwrpas arall.

Nid fforwm trafod mo Wikiquote golygu

Caniateir i ddefnyddwyr bostio negeseuon i'w gilydd ar y tudalennau Sgwrs Defnyddwyr priodol ond rhaid cyfyngu'r sgwrsio i'r tudalennau hynny'n unig, ac nid i dudalennau sgwrs yr erthygl ei hun, sydd wedi'u neilltuo ar gyfer trafod cynnwys y tudalennau hynny'n unig.

Nid gwelog mo Wikiquote golygu

Nid casgliad o gofnodion o amryw welogiau ydy Wikiquote. Tra bod defnyddwyr yn medru postio'u syniadau ar eu tudalennau defnyddwyr, nid ddylent eu defnyddio'n unig ar gyfer cynnal gwelog.

Nid lle i bostio dyfyniadau helaeth o weithiau gyda hawlfraint mo Wikiquote golygu

Nid yw Wikiquote yn gasgliad o eiriau caneuon neu gerddi cyflawn, ac mae yna faterion hawlfraint pendant o ddefnyddio mwy nag ychydig linellau o ganeuon neu gerddi modern, hyd yn oed o dan amodau defnydd teg. Mae hyn hefyd yn wir am ddeialog o ffilmiau neu raglenni teledu. Tra nad oes unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ynglyn a defnyddio cerddi cyfan neu eiriau caneuon i'r parth cyhoeddus, ni annogir defnyddio cerddi cyfan neu geiriau caneuon llawn, a dylai proses ddethol o ddatganiadau arwyddocaol o fewn cerdd neu gan ddigwydd yn gyffredinol. NID yw'r ffaith fod gwaith sydd a hawlfraint wedi cael ei bostio'n llawn ar y wê yn golygu fod y gwaith bellach yn y parth cyhoeddus. Gweler Wikiquote:Hawlfreintiau.

Nid casgliad o hysbysebion mo Wikiquote golygu

Tra bod lle ar Wikiquote ar gyfer slogannau hysbysebu, nid yw Wikiquote yn caniatau hysbysebu amlwg neu (spam) o unrhyw fath. Gallai defnyddwyr sy'n postio dolenni'n barhaus i'w gwefan masnachol ar ôl iddynt dderbyn rhybudd gael eu blocio rhag golygu Wikiquote.

Nid pelen grisial mo Wikiquote golygu

Gweithia Wikiquote at sicrhau cywirdeb drwy ddefnyddio ffynonnellau dibynadwy ar gyfer ei dyfyniadau. Nid yw llyfrau, ffilmiau gemau, a gweithiau eraill sydd heb eu rhyddhau eto ar gael i'w gwirio, ac felly mae dyfyniadau o ac erthyglau ar y pynciau hyn yn annerbyniol oni bai fod yna gyhoeddiad dibynadwy yn eu hadolygu. Mae erthyglau sydd yn sgerbydau i'w llenwi ar ôl i'r gwaith gael ei rhyddhau yn arbennig o anaddas, am nad ydynt yn darparu dim o werth i'r person sy'n chwilio am ddyfyniadau, a gallent gael eu dileu ar frys am nad oes ganddynt gynnwys ddyfynadwy.

Polisïau swyddogol tebyg ar ein chwaer brosiectau golygu

Gweler hefyd golygu