Tro yn Llydaw

Hanes daith i Lydaw gan O M Edwards

Mae Tro yn Llydaw yn deithlyfr gan Owen Morgan Edwards sydd yn drafod daith a wnaed ganddo ef a' frawd John Morgan Edwards (Ifor Bowen yn y llyfr) i Lydaw. Er nad oes dyddiad yn y llyfr, mae'n debyg mai yn Awst 1898 y bu'r daith.

Dyfyniadau golygu

Pennod III—Dinas Malo Y mae pob eglwys Babyddol yn agored bob amser, gellir myned iddi i addoli neu i orffwys. Am eglwysi a chapelau ein gwlad ni, gellid meddwl mai at y Sul yn unig yr adeiladwyd hwy, ac na ddylid addoli ond ar y dydd hwnnw.

Pennod IV—Craig y Bedd Mae meddwl Llydaw'n debig iawn i feddwl Cymru,— yr un hoffter o dlysni, yr un cariad at yr ysbrydol, yr un pruddglwyf, yr un ymdeimlad o ddieithrwch tragwyddoldeb, yr un naws grefyddol. Y mae'r Llydawiaid wedi eu gadael yng nghornel eu hen wlad i ddysgu gwirioneddau'r ysbryd i'r Ffrancod arwynebol, gwamal; fel y gadawyd y Cymry i ddysgu'r Sais oer digydymdeimlad.


Pennod V—Taith ar Draed Dywedir fod dwy ffordd o deithio yn Llydaw—ar draed, i weled llawer; neu gyda'r tren, i weled dim.