Shirley Valentine (drama)

Daw'r dyfyniadau o addasiad Manon Eames o ddrama Willy Russell, Shirley Valentine:

Dyfyniadau

golygu
  • Ma priodas bach fel y Middle East, yntydi. 'Sdim atab. Ma rywun yn potsian fan, potsian man draw, trafod a dadle, yn copio efo'r gweiddi a'r crio, ond yn y pen draw y peth call i 'neud 'di cadw'ch pen i lawr, sticio at y 'curfew' a gweddïo bydd y 'cease-fire' yn dal.
    • tt 5, Shirley Valentine, gan Willy Russell; addasiad Manon Eames.
  • Briodon nhw, setlon nhw, mago' nhw 'i plant. A rwla, rwbryd, rwsut, ath yr hogyn Joe yn FO, a daeth Shirley Valentine i hyn. A'r peth ydi, alla i'm cofio'r diwrnod na'r wthnos na'r mis pan ddigwyddodd o. Pan stopiodd o fod yn dda. Pan ddiflanodd Shirley Valentine. Enw arall ar restr yr heddlu. 'Missing Persons'.
  • Steddish i 'na yn meddwl - Shirley - 'rhen ast wirion. Jyst dynas stiwpid arall yn meddwl basa hi'n gallu mentro, pan ma dyddia mentro drosodd.