Shirley Bassey

canwr (1937- )

Cantores yw Shirley Veronica Bassey (ganwyd 8 Ionawr 1937), yn enedigol o Gaerdydd. Mae ei chaneuon enwocaf yn cynnwys Goldfinger (1964), Big Spender (1967), a Diamonds are Forever (1971).

dde

Dyfyniadau gyda ffynhonnell golygu

Erthygl "Bassey is back" golygu

  • Unrhyw beth. Mae pawb yn mwynhau creu rhai eu hunain. DSB, Dâm Bassey, sydd mor ofnadwy oherwydd 'dych chi ddim yn dweud Dâm Bassey... Dâm Shirley, wrth gwrs. Ac mae fy ffrindiau'n fy ngalw i'n Dâm!
  • Dw i ddim yn hoffi arddangos fy mronnau oddi ar y llwyfan. Maent ar gyfer gwaith. Mae pobl yn disgwyl fy ngweld yn yr archfarchnad yn fy ngwn gyda'r rhaniad lan fy nghlun a fy mronnau mas... A fyddan nhw byth. Oni bai fy mod yn gwneud hysbyseb.
  • Gwranda, bach, dw i'n canu am fy swper. Dw i'n blydi bendant nad ydw i'n gorfod ei goginio hefyd.
  • Pan gerddaf oddi ar y llwyfan, dw i'n gadael y cymeriad honno yno.
  • Roeddwn yn blentyn gwyllt. Cefais fy ngadael i ddringo coed. A chi'n gwybod y preniau rheilffordd hynny, arferant eu codi'n bentwr, chwe' troedfedd ar wahan, ac arferwn neidio o'r naill i'r llall. Heb rwyd diogelwch! Roeddwn yn domboi anhygoel."