Robin Llwyd ab Owain

awdur, bardd, a Wicipediwr

Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991, sef Eisteddfod Bro Delyn, yw Robin Llwyd ab Owain (enw barddol: Robin Llwyd). Ysgrifenodd awdl 'Merch Ein Amserau', cân erotig am genhedlu Cymru newydd, ddi-drais, organig.

Dyfyniadau Amdano golygu

  • "Diolch am fardd sy'n edrych o'i amgylch yn lle edrych yn ol. Mae'n fardd aruthrol, a bu darllen ei awdl yn brofiad ysgytwol ... torrodd dir newydd o safbwynt yr awdl eisteddfodol."
    • (Y Prifardd Eirian Davies, 1991)). Beirniadaeth a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1991
  • "Ceir egni afieithus a newydd-deb brwd ... mae iechyd yn agosatrwydd ei ddelweddau at ein bywyd ni heddiw. Canu profiadau ei genhedlaeth a wna gan naw wfftio, felly, rhai o ddamcaniaethau Syr John Morris-Jones."
  • "Mae'r gerdd yn ymddangosiadol syml ond mor ofalus fel bod pob gair yn ei le. Fyddwn i ddim yn newid dim arni ... mae aeddfedrwydd a chyfoeth ei chyfanwaith yn gynnyrch gwir fardd...
    • (Nesta Wyn Jones, 1993) Beirniadaeth a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1991
  • "Meistr ar ei gyfrwng..."
    • (Y Prifardd James Nicholas, 1993))Beirniadaeth a Chyfansoddiadau Eisteddfod Genedlaethol 1991
  • "Prif nodwedd crefft y casgliad ydyw amlder y llinellau cynganeddol meistraidd. Mae'r gamp yma yn mynd law yn llaw a'i harddull ragorol,ei llyfnder didramgwydd, cyfoeth ei geirfa ac amrywiaeth ei chystrawen. Nid oes ganddo unrhyw faldod am eirfa farddonol ychwaith."
  • "Cerdd ragorol gan fardd rhagorol... Cynganeddwr medrus a bardd galluog." Am 'Ysgawen Mewn Mynwent, dywedodd, 'Mae'r syniad a gyfleir yn un gwreiddiol iawn, a'r cynganeddu yn drawiadol o newydd a graenus ac rwy'n meddwl hynna'n llwyr!')
  • "Er cystal ei sonedau, ac er gwyched y cerddi rhydd, ei gerddi caeth sy'n tystio orau i'w ddawn anghyffredin. Y mae'r gynghanedd yn ffrwyno ac yn ffinio ei sinigiaeth i'r dim."
  • " Bardd gorau yn y gystadleuaeth. Mae yma feistrolaeth lwyr ar fesur a mynegiant. Mae yma ddefnydd cyfoes o iaith heb iddo fynd yn fratiaith."