Rhodri Morgan

cyn-Brif Weinidog Cymru

Gwleidydd o Gymro a Phrif Weinidog Cymru ers 9 Chwefror, 2000 yw Hywel Rhodri Morgan (ganwyd 29 Medi, 1939 yng Nghaerdydd).

Os bydd hinsawdd Cymru'n debycach i Sbaen neu dde California yn y dyfodol, yna bydd hinsawdd Sbaen yn debycach i'r Sahara. Os na allwn ni osgoi'r fath newid erbyn 2050, go brin na fydd hyn o fudd i Gymru.

Dyfyniadau

golygu
  • Os bydd hinsawdd Cymru'n debycach i Sbaen neu dde California yn y dyfodol, yna bydd hinsawdd Sbaen yn debycach i'r Sahara. Os na allwn ni osgoi'r fath newid erbyn 2050, go brin na fydd hyn o fudd i Gymru.
    • Araith, 12 Chwefror 2007 [1]
  • Allwn ni ddim atal pob newid yn yr hinsawdd. Felly mae'n rhaid i ni addasu i'r newidiadau hynny. Os yw'r gogledd yn troi'n gynhesach, go brin na fydd hyn o fudd.
    • Ymateb i gwestiwn am ei ddyfyniad uchod, 13 Chwefror 2007 [2]
  • Gyda buddugoliaeth syfrdanol yr Arlywydd Obama, ddeufis yn ôl, daeth gobaith i drechu ofn. Bydd oes newydd yn gwawrio wrth iddo gael ei urddo'n 44ain Arlywydd UDA, nid yn unig i wleidyddiaeth America ond trwy’r byd benbaladr. Mae heriau anferthol yn wynebu'r Arlywydd newydd – gartref, yn ogystal â thramor. Bydd rhaid iddo fynd i'r afael â'r dirwasgiad difrifol yn economi'r Unol Daleithiau a'r diffyg yswiriant iechyd ar gyfer nifer fawr o ddinasyddion America, ac ar yr yn pryd bydd yn ceisio canfod atebion i’r argyfwng sy’n parhau yn y Dwyrain Canol ac Affganistan. Rwy'n siŵr y bydd yr Arlywydd Obama yn awyddus i gydweithio â Gordon Brown ac arweinwyr eraill a etholwyd yn ddemocrataidd ledled y byd i dynnu’r byd allan o’r cyfyngder economaidd sydd ohoni a chreu llewyrch newydd.
    • Ar achlysur urddo Barack Obama yn Arlywydd yr Unol Daleithiau, 20 Ionawr 2009 [3]
  • Gall Gymru fod yn falch o'n campwyr Paralympaidd sydd wedi cynnal yr ysbryd gwych sydd wedi bodoli ym myd campau Cymru trwy gydol y flwyddyn. Daeth tyrfa enfawr i Fae Caerdydd i groesawu'n campwyr Olympaidd adref o Beijing, a hoffwn weld yr un croeso anhygoel i'n Paralympwyr hefyd. Fel gyda'r gemau Olympaidd, mae'r cystadleuwyr o Gymru wedi arwain Tîm GB yn eu rhuthr am aur, a gyda'i gilydd maen nhw wedi codi proffil y mudiad Paralympaidd yng ngolwg y cyhoedd. Maen nhw'n wir haeddu cael eu croesawu adref fel arwyr.
    • Ar ddychweliad y Paralympwyr Cymreig o'r Gemau Olympaidd yn Beijing.[4]