Hermann Hesse
awdur Almaeneg (1877-1962)
Bardd, nofelydd a phaentiwr Almaenig-Swis oedd Hermann Hesse (2 Gorffennaf, 1877 – 9 Awst, 1962). Ym 1946, derbyniodd y Wobr Nobel am Lenyddiaeth. Mae ei weithiau mwyaf adnabyddus yn cynnwys Steppenwolf, Siddhartha, a The Glass Bead Game (a adwaenir hefyd fel Magister Ludi) gyda phob un ohonynt yn astudio chwiliad unigolion am ysbrydolrwydd.
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
golygu- O, nid yw cariad yno i'n gwneud yn hapus. Credaf ei fod yn bodoli er mwyn dangos i ni cymaint y gallwn ddioddef.
- Peter Camenzind (1904)
- Os ydych yn casau person, rydych yn casau rhywbeth ynddo sy'n rhan ohonoch chi eich hun. Nid yw'r hyn na sydd yn rhan ohonom yn ein brawychu.
- Demian (1919)
- Nid yw geiriau'n mynegi meddyliau yn dda iawn. Maent ychydig yn wahanol wedi iddynt cael eu dweud, wedi eu newid rhywfaint, ychydig yn ffol. Ac eto, caf fy mhlesio hefyd ac mae'n teimlo'n iawn fod yr hyn sydd o werth a doethindeb i un dyn yn ffwlbri i ddyn arall.
- Siddhartha (1922)