archddiacon Brycheiniog a llenor yn yr iaith Ladin
Roedd Gerallt Gymro (neu Giraldus Cambrensis yn Lladin) (c.1146- c.1223) yn eglwyswr a hanesydd canoloesol. Ei enw bedydd oedd Gerald de Barri. Roedd yn ysgolhaig gwych a chwaraeodd ran bwysig yng ngwleidyddiaeth eglwysig ei ddydd.