Dewrder
Y gallu i wynebu ofn, poen, perygl, ansicrwydd neu fygythiad ydy Dewrder. Gellir ei rannu'n "ddewrder corfforol" — pan yn wynebu poen a chaledi corfforol, neu'r bygythiad o farwolaeth — a "dewrder moesol" — pan yn wynebu cywilydd, sgandal a diffyg annogaeth.
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
golygu- Mae llyfrgwn yn marw droeon cyn eu marwolaeth;
Unwaith yn unig y profa dewrion farwolaeth.- William Shakespeare, Julius Caesar, Act II, sc. ii (1599)
- Mae'r term dewrder bron yn wrthgyferbyniol. Cyfeiria at awydd cryf i fyw ar ffurf parodrwydd i farw.
- G.K. Chesterton, Orthodoxy, P. 6 (1909)
- Either life entails courage, or it ceases to be life.
- E.M. Forster, Pharos and Pharillon, “The Poetry of C.P. Cavafy” (1923)
- Ni symudwn gyda'n coesau a'n breichiau, ond gyda dewrder a hunan ddisgyblaeth.
- Mehmet ildan, Quotations
- Mae dewrder yn hynod bwysig. Fel cyhyr, mae'n cryfhau o'i ddefnyddio.
- Ruth Gordon, L’Officiel (Haf 1980)
- Ewch i ymyl y glogwyn a neidiwch ymaith. Adeiladwch eich adennydd ar y ffordd i lawr.
- Ray Bradbury, Brown Daily Herald (Mawrth 24, 1995)