Cymeriad
Mae cymeriad moesol neu gymeriad yn werthusiad o rinweddau moesol a meddyliol person. Mae'r fath werthusiad yn oddrychol — gall un person werthuso cymeriad rhywun arall ar sail eu rhinwedd, tra bod eraill yn gallu ystyried eu cryfder, dewrder, ffyddlondeb, gonestrwydd neu eu crefydd.
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
golygu- Canlyniad ein gweithredoedd yw ein cymeriad.
- Aristotle, Nicomachean Ethics (c. 335 B.C.)
- Nid yw'r ffaith eich bod yn gymeriad yn golygu o reidrwydd fod gennych gymeriad.
- Winston Wolfe (cymeriad a chwaraewyd gan Harvey Keitel) yn y ffilm, Pulp Fiction (1994)
Dictionary of Burning Words of Brilliant Writers (1895)
golyguReported in Josiah Hotchkiss Gilbert, Dictionary of Burning Words of Brilliant Writers (1895).
- Cymeriad da yw'r garreg fedd orau. Bydd y rhai a fu'n eich caru, ac a dderbyniodd eich cymorth yn eich cofio pan fydd y blodau wedi gwywo. Cerfiwch eich enw ar galonnau, ac nid ar farmor.
- Charles Spurgeon, p. 44.
- Mae dyn yr hyn ydyw, nid yr hyn y dywed dyn ydyw. Gall yr un dyn gyffwrdd a'i gymeriad. Ei gymeriad yw'r hyn ydyw gerbron ei Dduw a'i Farnwr; ac ef ei hun yn unig all ddifetha hynny. Ei enw da yw'r hyn y dywed dynion amdano. Gellir difetha hynny; mae enw da am gyfnod, mae cymeriad am dragwyddoldeb.
- John B. Gough, p. 46.
- Mae cymeriad dyn fel ffens — ni ellir ei gryfhau drwy ei wyngalchu.
- Anhysbys, p. 46.
- Dysgais drwy brofiad na ellir difetha cymeriad dyn heblaw drwy ei weithredoedd ei hun.
- Rowland Hill, p. 45.
Dyfyniadau heb ffynhonnell
golygu- Os gollwch arian, ni chollwch unrhyw beth, Os gollwch amser, collwch rhywbeth, Os gollwch eich cymeriad, collwch bopeth.
- Ni all cymeriad ddatblygu mewn rhwyddineb a thawelwch. Dim ond trwy brofi caledi a dioddefaint y gellir cryfhau'r enaid, ysbrydoli uchelgais a derbyn llwyddiant.
- Cymeriad yw ffawd.
- " Rhydd wybodaeth pŵer, ond cymeriad a rydd parch."