Crefydd
Gair a gyfeiria at safbwyntiau at ysbrydolaeth dynol ydy crefydd. Gan amlaf mae'n cynnwys set o naratif, credoau a defodau, yn aml gyda gwerthoedd goruwchnaturiol neu drosgynnol, a rydd ystyr i brofiadau'r credwr ym mywyd drwy gyfeirio at bŵer neu wirionedd uwch. Gellir mynegi hyn drwy weddi, ddefod, myfyrio, cerddoriaeth a chelf, ymysg pethau eraill. Gall hefyd ffocysu ar honiadau goruwchnaturiol, metaffisegol a moesol penodol ynglyn a realiti a allai greu cyfres o gyfreithiau crefyddol, moesoldeb a ffordd benodol o fyw. Mae crefydd hefyd yn cynnwys traddodiadau cyndeidiol neu ddiwylliannol, ysgrifau, hanesion a mytholeg, yn ogystal â phrofiadau ffydd a chrefydd bersonol. Cyfeiria'r term "crefydd" i'r arferion personol sy'n ymwneud â ffydd cymunedol a defodau grŵp a chyfathrebu sy'n deillio o rannu'r un credoau.
Dyfyniadau gyda ffynhonnell
golygu- Seilir pob crefydd ar ofnau llawer a chlyfrwch nifer fechan.
- Stendhal
- Rhaid i grefydd, hyd yn oed os yw'n galw ei hun yn grefydd cariad, fod yn galed a di-gariad i'r rheiny na sydd yn aelod ohono.
- Sigmund Freud, Group Psychology and the Analysis of the Ego (1921)