Caniadau Buddug

cyfrol o gerddi

Mae Caniadau Buddug yn gyfrol o gerddi gan Catherine Prichard (Buddug)(1842 –1909). Un o Gaergybi oedd Buddug ac roedd yn aelod o deulu o feirdd. Ei thad oedd Robert John Pryse ("Gweirydd ap Rhys") a'i brawd oedd John Robert Pryse ("Golyddan"). Roedd yn briod a'r bardd Owen Prichard (Cybi Velyn).

Cybi Velyn gasglodd y cerddi hyn ar ôl marwolaeth Catherine, ei wraig, gan eu cyflwyno i Syr Owen Morgan Edwards i'w cyhoeddi fel rhan o'i gyfres poced-dîn boblogaidd Llyfrau Ab Owen. Argraffwyd y gyfrol gan "Swyddfa Cymru", Caernarfon ym 1911.

O! NA byddai'n haf o hyd

O! NA byddai'n haf o hyd,
Awyr lâs uwchben y byd,
Haul goleulan yn tywynnu;
Adar mân y coed yn canu,
Blodau fyrdd o hyd yn gwenu,
O! na byddai'n haf o hyd.


CRANOGWEN

"Pwy bellach faidd wadu nas gall arucheledd
A mawredd meddyliol breswylio mewn merch?"