Wikiquote:Polisïau a chanllawiau

Prosiect cydweithredol ydy Wikiquote ac mae gan ei sylfaenwyr a'i chyfrannwyr yr un nod:

Nod Wikiquote yw i greu casgliad o ddyfyniadau yn rhad ac am ddim --yn wir, y casgliad mwyaf o ddyfyniadau mewn hanes, o ran eu dyfnder a'u hystod. Rydym hefyd eisiau Wikiquote i ddod yn adnodd ddibynadwy.

Mae gan Wikiquote rai polisïau a chanllawiau y dilynir ac a ystyrir yn bwysig neu'n hanfodol hyd yn oed, gan sylfaenwyr a chyfranwyr y prosiect. Mae'r rhain yn ein cynorthwyo i gyrraedd ein nod. Mae'n bwysig nodi fod o leiaf rhai o'r polisïau yma yn esblygu o hyd, wrth i Wikiquote dyfu a datblygu. Mae rhai polisïau eraill bellach wedi eu sefydlu ers cryn dipyn o amser ac ni châmt eu hystyried yn ddadleuol gan y mwyafrif llethol o Wikiddyfynnwyr profiadol.

Polisïau a dderbynir yn gyffredinol golygu

  • Peidiwch a thorri hawlfraint. Mae Wikiquote yn gasgliad rhad ac am ddim o dan telerau trwyddded Creative Commons Attribution/Share-Alike License‎ a'r GNU Free Documentation License. Mae cyflwyno gwaith heb ganiatad deiliad yr hawlfraint yn peryglu ein nod o adeiladu casgliad rhad ac am ddim y gall unrhyw un ei ail-ddosbarthu, a gallai arwain at cyfrifoldebau cyfreithiol i'r prosiect. Gweler Wikiquote:Copyrights am fwy o wybodaeth.
  • Casgliad o ddyfyniadau ydy Wikiquote. Dylid defnyddio'r safle'n bennaf ar gyfer datblygu'r casgliad. Yn benodol, dylai trafodaethau ar dudalennau sgwrs geisio gwella cyfraniadau. Gweler Anaddas ar gyfer Wikiquote.
  • Parchwch ddefnyddwyr eraill. Daw defnyddwyr Wikiquote o wledydd a diwylliannau amrywiol, ac mae ganddynt amrywiaeth eang o safbwyntiau. Wrth drin pobl eraill gyda pharch, gallwch gyd-weithio'n effeithiol wrth adeiladu casgliad o ddyfyniadau. Am rai canllawiau, gweler Cwrteisi.
  • Dilynwch gonfensiynnau. Trwy ddilyn y confensiynnau hyn, gallwn gynhyrchu casgliad o ddyfyniadau sy'n fwy cyson a defnyddiol:

Ar gyfer polisïau am ddefnyddio rhai nodweddion cyfyng, gweler Gweinyddwyr.

Gan amlaf mae polisïau chwaer brosiect Wikiquote, Wikipedia, yn gweithio llawn cystal gyda Wikiquote. Yn ychwanegeol i hyn, mae'r mwyafrif ohonynt yn aeddfetach ac felly mae mwy o sglein arnynt na pholisïau Wikiquote, sydd dal yn y broses o gael eu datblygu. Ymhle bynnag lle nad oes gwybodaeth yn Wikiquote, defnyddiwch Wikipedia:Polisïau a chanllawiau ac erthyglau cysylltiedig.

Gweler hefyd faux pas mwyaf cyffredin Wikipedia am wybodaeth ddefnyddiol ar gyfer newydd-ddyfodwyr. [Nid yw'r fersiwn Wikiquote wedi cael ei hysgrifennu eto ar gyfer y dudalen hon.]


Sut y gweithredir y polisïau hyn? golygu

Rydych chi yn olygydd Wikiquote. Nid oes gan Wikiquote uwch-olygydd neu system reolaethol o'r brig i lawr lle mae datblygiad o ddydd-i-ddydd ar y casgliad yn cael ei fonitro a'i dderbyn. Yn hytrach, mae cyfrannwyr gweithredol yn monitro newidiadau diweddar i wneud golygiad-copïo, a chywiriadau i'r cynnwys ac i fformatio problemau maent yn gweld. Felly, mae'r cyfranwyr yn ysgrifennwyr ac yn olygyddion.

Mewn achosion eithafol, prin, mae Jimbo Wales wedi camu i mewn i wahardd defnyddiwr sydd wedi tarfu llawer o weithgarwch y wici. Mae Jimbo hefyd wedi datgan fod rhai polisïau yn bolisïau swyddogol Wikiquote; gweler this Wikien-l post a User:Jimbo Wales/Statement of principles.

Sut mae polisïau wedi cael eu llunio? golygu

Caiff polisïau Wikiquote eu llunio i raddau helaeth drwy arfer a chytundeb. O ganlyniad, bwriedir i ddatganiadau ar y dudalen hon a thudalennau cysylltiedig fod yn ddisgrifiadol o arferion sy'n bodoli eisoes o fewn y gymuned sydd wedi datblygu dros gyfnod o amser. Mae tudalennau sgwrs gan gynnwys Wikiquote:Y Caffi a nifer o dudalennau sgwrs erthyglau a dogfennau yn atgyfnerthu ein polisi. Mae materion yn dal i gael eu llunio a'u trafod ar tudalennau sgwrs.


Canllawiau penodol i'w hystyried golygu

Yn ogystal â'r polisïau uchod, sy'n cael eu derbyn yn gyffredinol, awgrymwyd y canllawiau uchod gan gyfranwyr amrywiol ym mhrosiect Wikipedia:

Canllawiau cyffredinol golygu

Canllawiau ymddygiad golygu

Canllawiau cynnwys golygu

Canllawiau arddull golygu

Gweler hefyd golygu