Wikiquote:Canllaw ar gyfer diwyg

Mae hwn yn bolisi Wikiquote arfaethedig.
Mae wedi cael ei ysgrifennu gan un olygyddion / grŵp ac yn yr arfaeth trafodaeth mabwysiadu gan y gymuned.
Teimlwch yn rhydd i wneud newidiadau er ailysgrifennu dylid trafod os yn bosibl.

Esiampl gweithredol, annodedig o rai o'r rheolau elfennol ar gyfer gosod y wybodaeth ar dudalen yn y ffordd gywir yw'r Canllaw ar gyfer diwyg.

Nid yw'r erthygl hon am farcio'r wici; gweler Wiciquote:Sut i olygu tudalen er mwyn gwneud hynny, ac nid yw'r erthygl hon am arddull; gweler Wiciquote:Llawlyfr arddull ar gyfer hynny. Mae'r erthygl hon yn crynhoi sut mae erthygl syml, glan ar Wiciquote yn edrych. Am gofnodion manylach, efallai yr hoffech gopio'r marcio i fyny o rhyw erthygl sydd wedi ei chreu eisoes ac rydych yn hoffi ei hymddangosiad.

Am esboniad drwy esiampl, gweler Wiciquote:Nodiadau.

Cyffredinol golygu

Dylai holl dudalennau Wiciquote ddechrau gyda chyflwyniad byr lle mae termau allweddol yn cael eu cysylltu a Wicipedia. Dylai'r mwyafrif o dudalennau Wiciquote orffen gydag adran Dolenni allanol yn cynnwys "Blwch Wicipedia", a greir gan ddefnyddio'r nodiadau {{wikipedia}} neu {{wikipedia|Article name}}. Os yw blwch o'r fath yn ymddangos, dylai fod ar frig y rhestr yn yr adran. Y peth olaf yn yr adran hon fydd y categori. Er mwyn gosod tudalen mewn categori, defnyddiwch [[Categori:Enw categori]]. Dylai holl erthyglau Wiciquote fod mewn categori.

Tudalennau am bobl golygu

Mae nifer o erthyglau Wiciquote yn ddyfyniadau a ddywedwyd neu a ysgrifennwyd gan berson.

Gwybodaeth gefndirol golygu

Dylid dechrau erthygl am berson gydag ychydig frawddegau bywgraffiadol (1-4 brawddeg gan amlaf). Dylai enw'r person fod mewn print bras, a dylai gysylltu ag erthygl Wicipedia, os oes un yn bodoli. Os yw'n hysbys, dylid cynnwys eu dyddiad geni a marw. Mae'n gyffredin hefyd i gysylltu geiriau yn y cyflwyniad i dudalennau eraill ar Wiciquote neu Wicipedia.

Adrannau (pobl) golygu

Mae'r holl adrannau a ddisgrifir yn y fan hon yn adrannau lefel-2 (==). Mae'n bosib na fydd yr adrannau canlynol i gyd yn ymddangos, ond os ydynt, maent yn ymddangos yn y drefn a nodir, ac maent yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • Dyfyniadau gyda ffynhonnell: Dyfyniadau gyda ffynhonnell bendant, wiriadwy (araithm llyfr, cyfweliad neu rywbeth tebyg).
    • Os oes nifer o ddyfyniadau o'r un ffynhonnell, gellir creu is-adran lefel-3 a grwpio'r dyfyniadau o'r ffynhonnell honno yn yr is-adran hon. Gellir fynd yn ddyfnach eto, er ni argymhellir hyn: gallai defnyddiwr agor is-adran lefel-3 ar gyfer "Llyfrau ffuglen", a gosod llyfrau penodol o dan y pennawd hwnnw.
    • Pan yn nodi ffynhonnell, byddwch mor fanwl a phosib: nodwch y ffynhonnell, y man o fewn y ffynhonnell (os yn ymarferol) ac os yw'r ffynhonnell ar-lein, crewch ddolen iddo. Mae rhifau ISBN, rhif penodau, argraffiadau a rhifau tudalennau i gyd yn hwyluso'r broses o wirio cywirdeb dyfyniad yn y dyfodol.
  • Dyfyniadau heb ffynhonnell: Arferwyd defnyddio'r adran hon ar gyfer dyfydniadau sy'n boblogaidd neu'n nodedig, a briodolir i berson, ond nid oes gan y golygydd ffynhonnell benodol. Peidiwch ag ychwanegu dyfyniadau heb ffynhonnell newydd neu greu erthyglau newydd gyda dyfyniadau heb ffynhonnell.
  • Dyfyniadau a briodolir ar gam: Dyfyniadau poblogaidd, neu nodedig, a briodolir i'r person ond lle ceir tystiolaeth na ddywedwyd y fath beth. Dylid nodi cam-ddyfyniadau yn y fan hon hefyd.
  • Beriniadaethau neu Amdano: Dyfyniadau am y person.
  • Gweler hefyd: Tudalennau Wiciquote eraill sy'n ymwneud a'r person. Noder mewn rhai achosion, daw'r adran hon yn gyntaf (yn enwedig pan fo darn o waith llenyddol wedi ei dorri allan o dudalen, ac mae'r person yn adnabyddus am y gwaith hwnnw).
  • Dolenni allanol: Dolenni am y person, gyda phwyslais arbennig ar fannau lle gellir dod o hyd i fwy o'u geiriau.

Fformatio dyfyniadau (pobl) golygu

Dylai dyfyniadau gael eu fformatio ar ffurf rhestr o bwyntiau bwled, gyda phob dyfyniad ar ei bwynt ei hun, a heb ddyfynodau. Dylai cyfeiriadau ac unrhyw sylwadau ychwanegol, megis cyfeithiadau neu gyd-destun, ddilyn mewn is-fwled. Os nad yw dyfyniad yn Gymraeg, dylid defnyddio ffont italig. Yn yr achos hynny, yn enwedig ar gyfer sgriptiau an-Lladinaidd, mae trawsieithiad yn ddefnyddiol yn aml.

Llenyddiaeth golygu

Dylai'r cyflwyniad i ddyfyniadau o weithiau llenyddol gynnwys y flwyddyn pan gafodd ei greu, a'r awdur (neu awduron). Rhag ofn nad oes gan yr awdur dudalen ar Wiciquote, ystyriwch ddyfynnu o'r gwaith hwnnw mewn tudalen newydd am yr awdur a chreu ailgyfeiriad o enw'r gwaith at dudalen yr awdur. Os yw'n briodol, dylid rhoi dolen i Gutenberg yn yr adran Dolenni allanol.

Fformatio dyfyniadau (llenyddiaeth) golygu

Caiff dyfyniadau eu fformatio fel dyfyniadau gyda ffynhonnell am berson. Yn yr adran Dyfyniadau gyda ffynhonnell, nodwch rhif y bennod (adran, rhan) a'r enwau.

Ffilmiau golygu

Ar gyfer tudalennau ar gyfer dyfyniadau o ffilmiau, dylai'r cyflwyniad gysylltu a'r erthygl yn Wicipedia, a dylid cyfeirio at flwyddyn y ffilm, y cyfarwyddwr, yr ysgrifennwr a weithiau pwy oedd yn serennu ynddo. Yn dilyn hyn, dylid nodi llinell dag y ffilm, wedi ei chanoli ac mewn testun bras. Dylid cynnwys dolen fewnol i adran y "Llinell dag", os oes un yn bodoli.

Adrannau (ffilmiau) golygu

Mae pob adran yn y fan hon yn adrannau lefel-2 (==). Nid oes rhaid i bo un ymddangos, ond pan maent yn ymddangos, dylid eu nodi yn y drefn ganlynol.

  • Cymeriad: Dylai fod adran ei hun gan bob prif gymeriad, ac yn yr adrannau hynny y dylid nodi'r hyn a ddywedwyd gan y cymeriad hynny'n unig.
  • Eraill: Gellir grŵpio mân gymeriadau mewn un adran.
  • Deialogau: Gosodir dyfyniadau sy'n rhan o ddeialog yn y fan hon.
  • Llinellau tag: Os oes gan ffilm fwy nag un llinell dag, dylid rhoi pob un yn yr adran hon.
  • Cast: Rhestr pwyntiau bwled o'r prif gast. Gan amlaf, nid yw enw'r cymeriad yn ddolen. Gallai enw'r actor fod yn ddolen i Wiciquote (os yw'r fath dudalen yn bodoli) neu ddolen i Wicipedia.
  • Dolenni allanol: Dylai hwn gynnwys y teitl IMDB.

Fformatio dyfyniadau (ffilmiau) golygu

Dylid fformatio dyfyniadau yn yr adran Cymeriadau fel pobl. Mae'r dyfyniadau yn yr adran Eraill wedi'u rhestru gyda phwyntiau bwled. Ceir dau arddull ar gyfer dyfyniadau Eraill: naill ai arddull thema, neu fel hyn:

* '''Cymeriad''': Testun

Ymddengys yr ail ffurf fel yr un mwyaf poblogaidd. Dylid fformatio dyfyniadau yn Deialogau fel dyfyniadau teledu. Dylid fformatio llinellau tag fel y maent yn ymddangos, heb newid yr atalnodi a heb ychwanegu dyfynodau.

Teledu golygu

Dylai'r cyflwyniad ar gyfer rhaglen deledu gynnwys y flwyddyn dechreuodd y rhaglen (ac, os yn briodol, y flwyddyn y daeth y rhaglen i ben). Dylai'r adran Dolenni allanol gynnwys dolen at rif imdb y sioe.

Adrannau (Teledu) golygu

Dylid defnyddio penawdau lefel-2 ar gyfer y cyfresi: ==Cyfres n==. Ar gyfer sioeau teledu na sydd yn Americanaidd, dylis defnyddio'r term "cyfres" yn hytrach na "thymor". Dylid defnyddio penawdau lefel-3 ar gyfer rhaglenni unigol: ===''Enw mewn ffont italig'' [n.m]===, lle ma n yn dynodi'r gyfres ac m yn dynodi rhif y rhaglen. Gellir defnyddio adran ar wahan ar frig y dudalen ar gyfer "dyfyniadau parhaus" neu linellau enwog o'r gyfres (dyma ble y dylid nodi cân thema'r gyfres hefyd —os oes yna ddyfyniadau caneuon thema'n unig, gellir galw'r adran yn "Cân thema").

Fformatio dyfyniadau (Teledu) golygu

Ystyrir pob dyfyniad teledu yn ddeialog (hyd yn oed os mai dim ond un cymeriad sy'n siarad). Rhennir darnau deialog gan yr hyn a elwir y "rheolau hanner-lled": <hr width="50%"/>. Fformatir pob dyfyniad deialog fel:

: '''Enw Cymeriad''': Testun

Ar gyfer cymeriadau sydd â thudalennau ar Wicipedia, dylid cysylltu'r cymeriad a'r dudalen honno y tro cyntaf mae'r cymeriad yn ymddangos mewn rhaglen. Dylid fformatio llinellau cyd-destun fel a ganlyn:

: ''[Mae'r cymeriadau'n gwneud rhywbeth.]''

tra bod y cyfarwyddiadau llwyfan yn cael ei fformatio mewn-llinell:

: '''Cymeriad''': ''[yn dawel]'' Na.

Yn gyffredinol, fe'ch annogir i beidio gor-ddefnyddio cyd-destun neu gyfarwyddiadau llwyfan. Dylai dyfyniadau gael eu rhestri yn yr un drefn ag y maent yn ymddangos yn y rhaglen. Ar gyfer enwau na ddywedir yn amlwg, disgrifiwch y cymeriad gan ddefnyddio "Achos Teitl":

: '''Merch Fach''': Pam?

Tudalennau thema golygu

Oni bai fod rheswm da, gall gyflwyno tudalen thema fod yn ddim mwy na "Dyfyniadau am/sy'n ymwneud â Thema", lle mae "Thema" yn creu dolen at Wicipedia.

Adrannau (themâu) golygu

Ceir dau fath o adran thema: pob thema heb adran, neu ranniad i mewn i Dyfyniadau gyda ffynhonnell/Dyfyniadau a briodolir.

Fformatio dyfyniadau (themâu) golygu

Dylai dyfyniadau ymddangos yn nhrefn yr wyddor yn ôl awdur, ac eithro pan fo datblygiad hanesyddol y testun yn gwneud trefn gronolegol yn arbennig o addas.

Dylid fformatio dyfyniadau fel rhestr o bwyntiau bwled fel gyda dyfyniadau am bobl: mewn rhestr o bwyntiau bwled a heb ddyfynodau. Dylai cyfeiriadau a nodiadau, megis cyfeithiadau, ddilyn fel îs-fwled, gan ddechrau gydag enw'r awdur. Os nad yw'r dyfyniad yn Gymraeg, dylid defnyddio ffont italig. Fe'ch argymhellir yn fawr i ychwanegu dyfyniad at dudalen y ffynhonnell, creu dolen i'r dudalen honno, a chadw sylwadau a chyd-destunnau yn y fan honno, yn hytrach nag ar y tudalennau thema eu hunain.

Diarhebion golygu

Caiff diarhebion eu fformatio fel dyfyniadau am bobl: heb ddyfynodau, yn yr iaith wreiddiol, trawsieithiad/cyfieithiad, ac unrhyw wybodaeth ychwanegol. Yn aml, defnyddir îs-fwled "Dehongliad posib". Dylid trefnu diarhebion ynh nhrefn yr wyddor—ac oherwydd fod cynifer ohonynt, mae'n arferol i ddadgysylltu'r mecanwaith Tabl Cynnwys arferol drwy ddefnyddio __NOTOC__ (gyda dau tan-sgôr ar y naill ochr) ac ysgrifennu TOC yn seiliedig ar lythyr.