Ronald Reagan

40fed arlywydd Unol Daleithiau America

Actor a gwleidydd Americanaidd oedd Ronald Wilson Reagan (26 Chwefror, 191105 Mehefin, 2004). Ef oedd 40fed Arlywydd yr Unol Daleithiau. Roedd yn wr o Jane Wyman (1940–1948) a Nancy Reagan (priodasant ym 1952).

Pa beth bynnag arall y dywed hanes amdanaf pan fyddaf wedi mynd, gobeithiaf y bydd yn nodi fy mod yn apelio at eich gobeithion gorau, nid eich ofnau gwaethaf; i'ch hyder yn hytrach na'ch amheuon. Fy mreuddwyd yw y byddwch yn teithio'r heol o'ch blaen gyda lamp rhyddid yn goleuo'ch llwybr a braich cyfleoedd yn eich cynnal ar eich ffordd.

Dyfyniadau gyda ffynhonnell golygu

  • 'Dywedir mai gwleidyddiaeth yw'r proffesiwn hynaf ond un. Dw i wedi dod i sylweddoli ei fod yn hynod debyg i'r proffesiwn hynaf.
    • Sylwadau mewn cynhadledd fusnes yn Los Angeles (2 Mawrth, 1977)
  • Nid yw rhyddid byth mwy nag un cenhedlaeth i ffwrdd o ddifodiant. Nid oeddem wedi ei drosglwyddo i'n plant yn eu gwaed. Rhaid brwydro amdano, ei amddiffyn, a'i drosglwyddo iddynt er mwyn i hwythau fedru wneud yr un peth...
    • Anerchiad yng nghyfarfod blynyddol Siambr Fasnach Phoenix, (30 Mawrth, 1961).