Wikiquote:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Wedi gwrthdroi golygiadau gan 185.80.140.73 (Sgwrs); wedi adfer y golygiad diweddaraf gan John F. Lewis
Tagiau: Gwrthdroi
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Gwrthdröwyd Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
Croeso, newydd-ddyfodiaid a'r rheiny ohonoch sydd wedi bod yma ers meityn! Os oes gennych gwestiynau am Wiciquote a sut mae'n gweithio, cliciwch ar y ddolen "Crëwch bwnc newydd" isod, ac yna gallwch osod ei ymholiad ar waelod y rhestr, a bydd rhywun yn ceisio'i ateb i chi. (Os oes gennych gwestiwn ynglyn â phwy ddywedodd beth, ewch i'r ddesg gyfeirio yn lle.)
 
Cyn gofyn cwestiwn, edrychwch i weld os yw wedi cael ei ateb eisoes yn yr adran [[Wikiquote:Cwestiynau cyffredin]] neu dudalennau eraill sydd wedi'u cysylltu a [[Wikiquote:Cymorth]]. Bydd y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ar gael o [[Wikiquote:Porth y gymuned]] a [[Wikiquote:Cyhoeddiadau]].
 
Cyn ateb cwestiwn newydd-ddyfodiwr mewn modd swta, pam na ail-ddarllenwch chi'r adran [[Peidiwch a chnoi'r newydd-ddyfodwyr!]]
 
Ni fydd cwestiynau ac atebion yn parhau ar y dudalen hon am gyfnod amhenodol (neu fyddai'r dudalen yn rhy hir a chymhleth). Ar ôl cyfnod o amser lle nad oes unrhyw weithgarwch pellach, bydd yr wybodaeth yn cael ei symud i adrannau perthnasol eraill o Wiciquote, (megis y dudalen Cwestiynau Cyffredin) neu cânt eu rhoi yn archif y Caffi os ydynt o ddiddordeb cyffredinol neu fe'u dileïr. Ystyriwch rhoi dyddiad a theitl i'ch trafodaeth i'r perwyl hwn. Gallwch lofnodi'ch neges drwy osod pedair tildes (sef y symbol hwn: ~ ) ar ddiwedd eich neges.
 
 
==Enwebiad i fod yn weinyddwr==
Hoffwn wneud cais i fod yn weinyddwr ar y Wiciquote Cymraeg. Ar hyn o bryd, nid oes gan y prosiect unrhyw weinyddwyr a theimlaf ei fod yn angenrheidiol fod rhywun yn ymgymryd a'r gwaith. Rwyf eisoes yn weinyddwr ar y Wicipedia Cymraeg ac wedi cyfrannu'n helaeth i'r wefan dros y misoedd diwethaf. Diolch. [[Defnyddiwr:Rhodri77|Rhodri77]] 16:40, 7 Chwefror 2010 (UTC)