Wikiquote:Llawlyfr arddull: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rhodri77 (sgwrs | cyfraniadau)
Ehangu
wiciquote -> wikiquote
 
Llinell 1:
Nod syml y '''Llawlyfr Arddull''' hwn yw er mwyn sicrhau fod yr erthyglau i gyd yn edrych yr un peth — [[w:canllaw arddull|canllaw arddull]] ydyw. Nid yw'r rheolau canlynol yn honni i fod y gair olaf. Yn aml mae'r naill ffordd llawn cystal a'r llall, ond os yw pawb yn creu erthyglau'n yr un modd, bydd [[Wiciquote]] yn haws i'w ddarllen a'i ddefnyddio, heb son am fod yn haws i'w ysgrifennu a'i olygu.
 
Mae'n ddymunol, er nad yw'n angenrheidiol, i fod yn gywir wrth ychwanegu dyfyniadau, diarhebion ac areithiau, ac i lynu at y [[WiciquoteWikiquote:Templad|Templad]], fel y fformatio safonol o dudalennau yn ei wneud yn bosib i ddefnyddio'n gwybodaeth ar gyfer ystod eang o ddefnyddiau, megis cyfri dyfyniadau (gwiriedig vs. priodolwyd), cenhedlaeth o dudalennau thema, a.y.b. Pan yn golygu tudalen sy'n bodoli eisoes, fe'ch annogir i newid y fformatio fel ei fod yn cydymffurfio a'r Templad.
 
Edrychwch ar [[WiciquoteWikiquote:Sut i olygu tudalen|Sut i olygu tudalen]] am wybodaeth ar '''sut''' i ddefnyddio gwahanol fathau o farciau'r wici, sy'n llawer mwy na dim ond testun '''bras''' neu ''italig''. Mae'r erthygl hon yn canolbwyntio ar '''pryd''' i'w defnyddio, er fod yr enghreifftiau'n dangos marciau'r wici hefyd gan amlaf.
 
Cymrwch gipolwg ar [[WiciquoteWikiquote:Canllaw ar gyfer diwyg]] am rai awgrymiadau syml ar sut i osod erthygl ar dudalen.
 
== Cyflwyniadau ==
Llinell 20:
Dylai erthyglau am bobl gynnwys blynyddoedd geni a marw'r awdur o leiaf, os ydynt yn hysbys. Dylid gwahanu dyddiadau geni a marwolaeth gyda ''en dash'', "–". Mae hyn a nifer o symbolau eraill a allai fod yn ddefnyddiol wrth drawsgrifo enwau a thestun gwreiddiol ar gael mewn blwch ar waelod y tudalennau golygu a rhagolwg. (Yr en dash yw'r symbol cyntaf a ddangosir.) Os yw'r awdur dal yn fyw, ysgrifennwch "(ganed dyddiad geni)" neu "(g. dyddiad geni)", nid "(yyyy–)".
 
Mae cyflwyniadau i erthyglau yn fwyaf pwysig ar gyfer dyfyniadau gan bobl neu weithiau nas adnabyddir yn fyd-eang. Bydd cyflwyniad effeithiol yn cynorthwyo Wiciddyfynnwyr eraill i ddarganfod mwy am y pwnc a chwilio am ddyfyniadau ychwanegol a allai fod yn berthnasol i'r erthygl. (Yn yr un modd, gall cyflwyniad gwael arwain at erthygl yn cael [[WiciquoteWikiquote:Pleidleisiau dros ddileu|ei chynnig i'w dileu]], os nad oes unrhyw olygydd arall yn medru dod o hyd i ddigon o wybodaeth am bwnc yr erthygl.)
 
Dylid defnyddio cyflwyniadau adrannol er mwyn darparu gwybodaeth bellach am gyd-destun is-set penodol o ddyfyniadau a geir yn yr erthygl. Mewn achos gyffredin o adran mewn erthygl am waith penodol neu berson, gall y cyflwyniad gynnwys manylion llyfryddiaeth am y gwaith, fel nad oes angen eu hail-adrodd ar gyfer pob dyfyniad.