American Beauty
ffilm ddrama a drama-gomedi gan Sam Mendes a gyhoeddwyd yn 1999
Ffilm o 1999 ydy American Beauty. Sonia am wr a thad sy'n mynd drwy greisis ganol oed, a sut y mae ei frwydro am gariad, rhyddid a rhyddid yn effeithio ar ei deulu a'i gymdogion.
- Cyfarwyddwyd gan Sam Mendes. Ysgrifennwyd gan Alan Ball
Lester Burnham
golygu- Fy enw i yw Lester Burnham. Dyma fy nghymdogaeth; dyma fy stryd; dyma fy mywyd. Rwyn 42 mlwydd oed; mewn llai na blwyddyn, bydda i wedi marw. Wrth gwrs, dw i ddim yn gwybod hynny eto, ac mewn ffordd, rwyf wedi marw eisoes.
- Edrychwch arna i, yn hunan-leddfu yn y gawod — dyma fydd uchafbwynt fy niwrnod. Dirywio fydd pethau o hyn ymlaen.
- Mae Janie yn arddegwraig eithaf nodweddiadol. Crac, ansicr, mewn penbleth. Hoffwn i ddweud wrthi y bydd y cyfnod hwn yn pasio, ond dw i ddim eisiau dweud celwydd wrthi.
- Bachan cyffredin ydw i heb ddim i'w golli.
- Dw i eisiau edrych yn dda yn noeth!
- Mae'n wych pan rydych yn sylweddoli fod gennych y gallu i roi syndod i'ch hun.
Carolyn Burnham
golygu- [I Jane] Cariad, dw i mor falch ohonot ti. Gwyliais i ti'n ofalus tu hwnt, a wnest ddim smonach ohono fe unwaith!
- Allwch chi ddim dibynnu ar neb ond eich hunan.
- Dw i gwrthod bod yn ddioddefwr!
Jane Burnham
golygu- Mam, oes rhaid i ni wrando ar y gerddoriaeth lifft yma BOB AMSER?
Ricky Fitts
golygu- Croeso i fideos cartref rhyfeddaf America.
- Dw i ddim yn obsesiynnol. Dw i jest yn chwilfrydig.
- Mae fy nhad yn meddwl fy mod yn talu am hyn i gyd gyda swyddi arlwyo. Paid byth tanseilio grym hunan-wadiad.
Angela Hayes
golygu- Dw i ddim yn meddwl fod dim yn waeth na bod yn gyffredin.
Buddy King
golygu- Er mwyn bod yn lwyddiannus, rhaid cyfleu delwedd o lwyddiant bob adeg.
Cast
golygu- Kevin Spacey – Lester Burnham
- Annette Bening – Carolyn Burnham
- Thora Birch – Jane Burnham
- Wes Bentley – Ricky Fitts
- Mena Suvari – Angela Hayes
- Peter Gallagher – Buddy King
- Allison Janney – Barbara Fitts
- Chris Cooper – Col. Frank Fitts, USMC
- Scott Bakula – Jim Olmeyer
- Sam Robards – Jim Berkley
- Barry Del Sherman – Brad Dupree