Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr

Nofel gan Alun Jones ydy Ac Yna Clywodd Sŵn y Môr. Mae'r nofel wedi bod ar gwrs TGAU CBAC ers nifer o flynyddoedd bellach.

Dyfyniadau golygu

  • "Mae gen i ofn cofiwch. Oes wir. Peth mawr yw bod ar eich pen eich hun cofiwch. Pan fydd ‘na dwrw allan yn y nos fydd ‘y nghalon i’n rhoi tro. A dwn i ddim be’r ydw i’n mynd i’w wneud rwan."
    • Gladys Davies Drofa Ganol


  • "Petai Wil druan yn fyw mi fyddai’n iawn arna i. Ond mae’r Bod Mawr yn mynd â phobl dda ac yn gadael i giarydyms grwydro’r lle ‘ma fel mynnon nhw."
    • Gladys Davies Drofa Ganol


  • "Pan welodd fi gyntaf yn y siop, roeddwn i’n euog. Dim dadl. Dim dwywaith. Euog. Pan oedd ‘na lond un bocs o neges, roedd peth amheuaeth. Pan oedd ’na lond dau focs o neges, roedd eich annwyl wr yn dwrnai da iawn ac yn agos i’w le. Pan oedd ‘na lond tri bocs o neges, roeddwn yn ddieuog. A phan lanwodd y pedwerydd bocs, roeddwn wedi cael y cam mwyaf a gafodd neb erioed."
    • Geiriau Meredydd Parry wedi iddo fynd i siop Harri Jos yn syth ar ôl ei achos llys.


  • "‘Hen lanc yn byw ar ei ben ei hun. Dim teulu agos, hyd y gwyddom. Nid oedd ei feddyg wedi ei weld ers blynyddoedd, ac fe’i gyrrodd yn syth yma. Peidiwch â dychryn wrth ei weld, Inspector, mae golwg ddrwg iawn arno.’
    ‘Beth yw ei salwch, Sister?’
    ‘Canser’"
    • Yr Arolygydd Roberts yn sgwrsio gyda'r nyrs pan yn ymweld â Harri Evans yn yr ysbyty.


  • "Y nefoedd wen! Yr oedd yn mynd â geneth i’r ty. Be wnâi hi? Mae’n rhaid ei bod yn hwran. Be ddeuai o’r lle ‘ma? Troi stad o dai newydd parchus mewn pentref bach heddychlon yn Stryd Sodom. Roedd y byd wedi mynd â’i ben iddo’n llwyr.
    Y nefoedd wen! Beth petai’n ferch ddieithr? Efallai nad oedd yn ei adnabod ef. "
    • Ymateb Gladys Davies Drofa Ganol pan mae Einir yn dychwelyd i dŷ Meredydd Parri.


  • "‘Wnaeth o ddim byd i’r hogan ‘na siwr iawn. Hen beth wirion ydi honno. Tynnu ar ôl ei mam. Mi fydda honno’n dangos ei chlunia i rywun pan oedd hi’n ifanc.’ "
    • Disgrifiad o Bethan Gwastad Hir


  • "Tagodd yn sydyn wrth lyncu gormod o fwg y Brython. "Go damia Robin Wylan Wen a’i faco. Duw a wyr lle mae o’n ei gael o. Mae ambell owns yn sych fel blydi carthen. Fasa waeth gen i smocio sboniad ddim."


Llygadrythodd Richard arno. Sylweddolodd gyda siom bod y cymeriad gyferbyn ag ef yn rhy gymhleth iddo allu ei drin fel y dymunai; nid gwladwr syml llyncu popeth ond dyn â meddwl a thafod fel llafn rasel.’ "

    • Disgrifiad o Now Tan Ceris o safbwynt Richard Jones.