Wikiquote:Fandaliaeth


Fandaliaeth ydy ychwanegu, dileu neu newid unrhyw erthygl er mwyn amharu ar ddidwyll-dra'r prosiect. Y math mwyaf cyffredin o fandaliaeth yw gosod iaith anweddus lle'r arferai erthygl fod, gwacau tudalennau'n llwyr neu'n gosod cynnwys cwbl amherthnasol arall.

Ni ystyrir unrhyw weithred a wneir er mwyn ceisio gwella'r prosiect yn fandaliaeth, hyd yn oed os yw'n anghywir.

Mae fandaleiddio tudalen yn groes i bolisi Wikiquote; rhaid i bobl sylwi arno a delio ag ef; os nad ydych yn medru delio a'r fandaliaeth eich hun, gofynnwch am gymorth wrth bobl ddefnyddwyr eraill.

Nid yw pob enghraifft o fandaliaeth yn amlwg, ac nid yw pob newid mawr neu ddadleuol i dudalen yn fandaliaeth: rhaid talu sylw agos iawn i weld a yw'r wybodaeth neu ddata newydd yn gywir neu a yw'n fandaliaeth.

Delio â fandaliaeth golygu

Os welwch chi fandaliaeth (yn unol â'r diffiniad isod), mae angen i chi ei wrthdroi it. Yn aml, bydd yn syniad da i wirio hanes y dudalen ar ôl ei wrthdroi er mwyn sicrhau eich bod wedi cael gwared ar yr holl fandaliaeth. Edrych ar gyfraniadau'r fandal hefyd - yn aml fel welwch fwy o enghreifftiau o olygiadau maleisus.

Yn ogystal â hyn, gadewch rybudd ar dudalen defnyddiwr y fandal gan ddefnyddio'r system ganlynol.

Nodiadau rhybudd golygu

Noder nad oes rhaid defnyddio'r nodiadau hyn mewn trefn. Os yw'r golygiad yn fandaliaeth amlwg, ystyriwch ddechrau gyda prawf2. Ar gyfer fandlaiaeth difrifol a pharhaus, gellir anwybyddu prawf3 a rhoi prawf4 yn syth ar ôl prawf2. Fodd bynnag, os dydych chi ddim yn siwr fod y golygiad yn fandaliaeth, dechreuwch gyda prawf1 bob tro. Mae'r ~~~~ yn y nodiadau isod yn peri i'ch llofnod a'r amser i gael ei ychwanegu i'r rhybudd.

{{ailosod:prawf1}} ~~~~
  Diolch am arbrofi gyda'r Wikiquote. Gweithiodd eich prawf, ac mae bellach wedi cael ei wrthdroi neu ei ddileu. Os hoffech arbrofi ymhellach, defnyddiwch y Wikiquote:Pwll tywod os gwelwch yn dda, oherwydd bydd arbrofi ar erthyglau yn golygu y bydd yn cael ei wrthdroi'n fuan. Cymrwch olwg ar y dudalen groeso os hoffech ddysgu mwy am gyfrannu i'n casgliad o ddyfyniadau. Am grynodeb cyflym o beth yn union ydy Wikiquote, darllenwch Wikiquote:Wikiquote, a Anaddas ar gyfer Wikiquote hefyd, am restr o weithgareddau cyffredin nad yw Wikiquote yn cefnogi.
{{ailosod:prawf2}} ~~~~
Stopiwch ychwanegu dwli i Wikiquote os gwelwch yn dda. Caiff ei ystyried yn fandaliaeth. Os ydych eisiau arbrofi gyda Wikiquote, defnyddiwch y pwll tywod os gwelwch yn dda.
Mae Wikiquote yn bodoli fel casgliad o ddyniadau nodedig gan bobl enwog ac o weithiau enwog. Am drosolwg cyflym o beth yn union yw Wikiquote, darllenwch Wikiquote:Wikiquote, a Anaddas ar gyfer Wikiquote hefyd. Yno, fe welwch restr o weithgareddau cyffredin nad yw Wikiquote yn cefnogi.
Gellir blocio defnyddwyr cofrestredig a chyfeiriadau IP rhag golygu tudalennau os nad ydynt yn cyfrannu'n adeiladol i'r prosiect ac yn ei fandaleiddio yn lle.


Diolch.

{{ailosod:prawf2a}} ~~~~ (amrywiol addaas ar gyfer blancio fandaliaeth)
Stopiwch ddileu cynnwys gyda ffynhonnell o Wikiquote os gwelwch yn dda. Caiff ei ystyried yn fandaliaeth. Os hoffech arbrofi, defnyddiwch y Pwll tywod os gwelwch yn dda.
Mae Wikiquote yn bodoli er mwyn creu casgliad o ddyfyniadau nodedig gan bobl enwog ac o weithiau enwog. Am drosolwg cyflym o beth yw Wikiquote, darllenwch Wikiquote:Wikiquote, ac hefyd Anaddas ar gyfer Wikiquote am restr o weithgareddau cyffredin nad yw Wikiquote yn cefnogi.
Pan nad oes diddordeb gan bobl mewn cyfrannu'n synhwyrol i ddatblygiad y prosiect, gallai achosion o fandaliaeth arwain at eu cyfeiriadau IP neu enw defnyddiwr yn cael eu blocio rhag golygu.
Diolch.
{{ailosod:prawf3}} ~~~~
Stopiwch os gwelwch yn dda. Os ydych yn parhau i fandaleiddio tudalennau, gosod dwli ar dudalennau, neu greu tudalennau ar gyfer pynciau dibwys, cewch ei blocio rhag golygu Wikiquote.
{{ailosod:prawf4}} ~~~~
Dyma eich rhybudd olaf. Y tro nesaf y byddwch yn fandaleiddio tudalen, byddwch yn cael eich blocio rhag golygu erthyglau.

Mae'r "ailosod" yn peri i destun y nodyn gael ei ludo i'r dudalen sgwrs fel pe baech chi wedi ei deipio, yn hytrach na gadael {{ailosod:prawf}} yn weladwy pan yn golygu'r dudalen. Mae hyn yn gwneud y neges yn fwy personol i'r defnyddiwr, ac o ganlyniad, yn fwy cyfeillgar. Hefyd, os yw rhywun yn fandaleiddio'r nodyn, yna ni fydd y fandaliaeth yn effeithio ar bob tudalen sy'n defnyddio'r testun o'r nodyn.

Os yw'r fandal yn parhau, rhestrwch hwy yn Wikiquote:Fandaliaeth yn weithredol. Bydd y gweinyddwr blocio yn gadael hwn ar dudalen sgwrs y fandal:

{{ailosod:prawf5}}
Rydych wedi cael eich blocio rhag golygu erthyglau dros dro am fandaleiddio Wikiquote. Os hoffech wneud cyfraniadau gwerthfawr, mae croeso o chi wneud hynny pan ddaw'r bloc i ben.

Cofiwch lofnodi a chofnodi amser eich rhybudd gan ddefnyddio pedair tildes (fel hyn: ~~~~).