Owain Owain

awdur, nofelydd, bardd, gwleidydd o Wynedd

Llenor, ysgolhaig ac ymgyrchydd gwleidyddol oedd Owain Owain (ganed 11 Rhagfyr, 1929 - 4 Rhagfyr, 1993).

Owain Owain

Dyfyniadau golygu

Ysgrifau golygu

  • Pan fo argyhoeddiadau lleiafrif yn gwrthdaro yn erbyn rhagfarnau mwyafrif, ni ellir gweithredu'n gyfiawn bob amser heb weithredu'n anghyfreithlon hefyd.
  • Enillwn y Fro Gymraeg, ac fe enillir Cymru, ac oni enillir y Fro Gymraeg, nid Cymru a enillir.
  • Oni achubir y Fro Gymraeg, nid Cymru ond rhyw dalaith orllewinol, Brydeinig a ddaw'n 'rhydd' o grafanc Llundain.
  • Yr amrywiaeth sy'n ein byd yw gwir gyfoeth dynoliaeth; o golli'r amrywiaeth, unffurfiaeth lwyd, nid undod a geir.
    • Llon Gyfarchion gan Ysgol Uwchradd Glan Clwyd, Gwasg Gee, Dinbych 1977 (Llyfr llofnofion i ddathlu penblwydd yr ysgol)
  • Mae tystiolaeth ein pobol wedi'i Phrydeinio - gan gofio mai cyfystyron yw "Seisnig" a "Phrydeinig," bellach. Yn gyfrwys, yn graff, yn gwbl fwriadol, Prydeiniwyd tystiolaeth ein pobol.
    • Allan o ysgrif 'Y dystiolaeth brydeinig'; (Cyhoeddwyd yn Y Faner, 21 Hydref, 1965. Dosbarthwyd ar ffurf pamffled, (1,750 o gopïau) ar 26 Hydref, 1965). Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
  • Mae unrhyw ymgais i gryfhau cenedligrwydd Cymru mewn cyd-destun Prydeinig yn sicr o fethu. Un peth, ac un peth yn unig a all warantu llwyddiant - ewyllysio i'r dystiolaeth Brydeinig gael ei gwrthod yn llwyr.
    • Allan o ysgrif 'Y dystiolaeth brydeinig'; (Cyhoeddwyd yn Y Faner, 21 Hydref, 1965. Dosbarthwyd ar ffurf pamffled, (1,750 o gopïau) ar 26 Hydref, 1965). Ad-argraffwyd yn Bara Brith (Cyhoeddiadau Modern, 1971).
  • Y mae unrhyw ystyr clodwiw y gellir ei briodoli i fywyd heddiw, ac unrhyw werth parhaol y gellir ei briodoli i fywyd ddoe, yn dibynnu ar barhad a chryfder yr iaith Gymraeg a'i diwylliant a feithrinwyd ac a feithrinir drwy gyfrwng yr iaith honno; nid i Gymru a'i phobl yn unig, ond i fyd dynion benbaladr; canys fe fydd diflaniad yr iaith Gymraeg yn gyfystyr â rhoi sêl oferedd ar yr hyn oll a fu yn hanes y byd yr ydym ni yn rhan ohono.

Nofelau golygu

  • Mor hawdd yw’n cyflyru! I mi, hyd yn oed — un o’r Ychydig dethol sy’n berchen cyfrinach y platinwm — mae’r Uchel Gyfrifydd yn fwy o ddyn nag o beiriant. Mae ganddo ‘bersonoliaeth’, a ‘chnofeydd yn ei grombil’!
Peiriant yn ddyn — a dynion yn beiriannau.

Dyfyniadau amdano golygu

  • Ym Mangor, gan Owen Owen (Owain Owain wedyn, fel yr hysbysodd, wedi Calan 1965) a'i gefnogwyr yr oedd yr unig gangen go-iawn. Wedi magu profiad yn herio'r coleg gwrthnysig, aeth ati fel mudiad ynddo'i hun.
    • Gwilym Tudur, Wyt ti'n Cofio? (ISBN: 9780862431839 (0862431832) Gwasg y Lolfa; 1989)
  • Ni welwyd dim byd tebyg i'r llyfr hwn yn ein hiaith o'r blaen, na dim byd hollol debyg mewn unrhyw iaith! Llawenhewn fod y math yma o ddisgleirdeb yn bosib yn y Gymraeg.

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu