Diarhebion Cymraeg

Rhestr o ddiarhebion Cymraeg.

ABCChDDdEFFfGNGHILLlMNOPPhRRhSTThUWY

A golygu

  • A arddo diroedd a gaiff ddigonedd
  • A bryn gig a bryn esgyrn
  • A chwilio fwyaf am fodlondeb a fydd bellaf oddi wrtho
  • A ddwg wy a ddwg fwy
  • A fo ben, bid bont
  • A fo byw yn dduwiol a fydd marw yn ddedwydd
  • A fynno barch, bid gadarn
  • A fynno Duw, a fydd
  • A fynno glod, bid farw
  • A fynno iechyd, bid lawen
  • A gâr a gerydd
  • A geir yn rhad, a gerdd yn rhwydd
  • A wnêl dwyll, ef a dwyllir
  • A ystyrio, cofied
  • Adar o'r unlliw a hed i'r unlle
  • Adeiniog pob chwant
  • Adfyd a ddwg wybodaeth, a gwybodaeth ddoethineb
  • Adwaenir ffôl wrth ei wisg
  • Adwaenir dyn wrth ei gyfeillion
  • Aeddfed angau i hen
  • Afalau'r nos, cnau'r bore, os ceri'th iechyd
  • Afal pwdr a ddryga'i gyfeillion
  • Afrad pob afraid
  • Angau'r euog ydyw'r gwir
  • Angel pen ffordd, a diawl pen tân
  • Angen a ddysg i hen redeg
  • Angor diogel yw gobaith
  • Ail fam, modryb dda
  • Allwedd tlodi, seguryd
  • Aml cogau, aml ydau
  • Aml yw haint ym mol hen
  • Amlach ffwl na gwr bonheddig
  • Amlwg gwaed ar farch gwinau
  • Amser yw'r meddyg
  • Amynedd yw mam pob doethineb
  • Anaml elw heb antur
  • Annoeth, llithrig ei dafod
  • Anodd iacháu hen glefyd
  • Anwylach bywyd na bwyd
  • Arfer yw hanner y gwaith
  • Arfer yw mam pob meistrolaeth
  • Asgre lân, diogel ei pherchen
  • Athro da yw amser
  • Awel y canolddydd a ddwg law yn ebrwydd
  • A wrthodo gyngor rhad a bryn edifeirwch drud

B golygu

  • Bach hedyn pob mawredd
  • Bach pob dyn a dybio ei hun yn fawr
  • Bedd a wna bawb yn gydradd
  • Benthyg dros amser byr yw popeth geir yn y byd hwn
  • Blasus pob peth a gerir
  • Blodau cyn Mai, gorau na bai
  • Blwyddyn o eira, blwyddyn o lawndra
  • Blys geneth yn ei llygaid, blys bachgen yn ei galon
  • Bolaid ci a bery dridiau
  • Bonheddig pob addfwyn
  • Brawd mygi yw tagu
  • Brawd yw celwyddog i leidr
  • Brenhines pob camp, cyfiawnder
  • Brenin pob llyffant ar ei domen ei hun
  • Brenin y bwyd yw bara
  • Bu weithiau heb haf; ni bu erioed heb wanwyn
  • Bychan y tâl cyngor gwraig, ond gwae y gŵr nas cymero
  • Bydd olaf i fyned drwy ddŵr dwfn
  • Byr ei hun, hir ei hoedl
  • Byr yw Chwefror, ond hir ei anghysuron
  • Byw i arall yw byw yn iawn

C golygu

  • Cadarna'r mur po arwa'r garreg
  • Cadw dy ardd, ceidw dy ardd dithau
  • Cadw dy dafod i oeri dy gawl
  • Cadw yn graff a ddysgych
  • Cael rhad Duw, cael y cyfan
  • Cais ddedwydd yn ei gartref
  • Cais ddoeth yn ei dyddyn
  • Cais ffrwyn gref i farch gwyllt
  • Canmol dy fro a thrig yno
  • Canmoled pawb y bont a'i dyco drosodd
  • Câr cywir, yn yr ing fe'i gwelir
  • Cariad yw mam pob dwyfoldeb
  • Cas athro heb amynedd
  • Cas chwerthin heb achos
  • Cas dyn a ddirmygo Dduw a dyn
  • Cas dyn ni chredo neb, na neb yntau
  • Cas fydd un enllibiwr gan y llall
  • Cas gwr na charo'r wlad a'i maco
  • Cas yw'r gwirionedd lle nis carer
  • Castell pawb, ei dŷ
  • Ceffyl da yw ewyllys
  • Ceiniog a enillir ydyw'r geiniog a gynilir
  • Ceir llawer cam gwag trwy sefyll yn llonydd
  • Celf orau yn y tŷ; gwraig dda
  • Celwydd sydd yn marchogaeth ar ddyled
  • Cenedl heb iaith, cenedl heb galon
  • Cenfigen yw gwraidd pob cynnen
  • Cennad hwyr, drwg ei neges
  • Clust doeth a lwnc wybodaeth
  • Clydwr dafad yw ei chnu
  • Clyw a gwêl ac na ddywed ddim
  • Craffach un llygad llysfam na dau lygad mam
  • Cred air o bob deg a glywi, a thi a gei rywfaint bach o'r gwir
  • Crefftwr tafod hawdd ei nabod
  • Crochaf yr afon, lleiaf y pysgod
  • Cura'r haearn tra fo'n boeth
  • Cwsg yw bywyd heb lyfrau
  • Cydwybod euog a ofna ei gysgod
  • Cydymaith asyn ei glustiau
  • Cyfaill blaidd, bugail diog
  • Cyfaill da cystal â cheffyl
  • Cyfoeth pob crefft
  • Cyfoethog pob bodlon
  • Cyfyng ac eang yw dewis
  • Cymydog da ydyw clawdd
  • Cynt y cwrdd dau ddyn na dau fynydd
  • Cynt y cwymp dâr na miaren o flaen gwynt
  • Cyntaf i'r felin caiff falu
  • Cyntaf ei og, cyntaf ei gryman
  • Cysur pob gwyryf - cusan

Ch golygu

  • Chwarae'n troi'n chwerw
  • Chwedl a gynydda fel caseg eira
  • Chwefror garw; porchell marw
  • Chwerthin a wna ynfyd wrth foddi
  • Chwynnwch eich gardd eich hun yn gyntaf

D golygu

  • Da gadael pob da fel y mae
  • Da yw dant i atal tafod
  • Darllenwch ddynion yn gystal â llyfrau
  • Dau ddigon sydd
  • Dedwydd pob di-falch
  • Deuparth gwaith ei ddechrau
  • Deuparth llwyddiant, diwydrwydd
  • Diflanna geiriau, ond erys gweithredoedd
  • Dim glaw Mai, dim mêl Medi
  • Diogi a rhinwedd, dwyrain a gorllewin
  • Diwedd pob peth yw cyffes
  • Doeth a wrendy; ffôl a lefair
  • Doeth pob tawgar
  • Doethaf naid, naid dros fai
  • Drych i bawb ei gymydog
  • Dwla dwl, dwl hen
  • Dyfal donc a dyr y garreg.
  • Dyled ar bawb ei addewid
  • Dyn a chwennych, Duw a ran
  • Dyngarwch yw'r dawn gorau

E golygu

  • Eglwys cybydd, ei gist
  • Egni a lwydd
  • Eli i bob dolur yw amynedd
  • Enfys y bore, aml gawodau
  • Enw da yw'r trysor gorau
  • Esgeulus pob hen
  • Etifeddiaeth werthfawr ydyw gair da
  • Euog a wêl ei gysgod rhyngddo â'r haul
  • Ewyn dwfr yw addewid mab

F golygu

  • Fallai yw hanner y ffordd i felly
  • Fe fynn y gwir ei le
  • Fe gwsg galar, ni chwsg gofal
  • Fel yr afon i'r môr yw bywyd dyn

Ff golygu

  • Ffawd ar ôl ffawd a wna ddyn yn dlawd
  • Ffôl pawb ar brydiau
  • Ffolog sydd fel llong heb lyw
  • Ffon y bywyd yw bara
  • Ffordd nesaf at olud, talu dyled
  • Ffynnon pob anffawd, diogi

G golygu

  • Gaeaf gwyn, ysgubor dynn
  • Gair drwg a dynn y drwg ato
  • Gair mam a bery'n hir
  • Gall y gwaethaf ddysgu bod yn orau
  • Gan bwyll y mae mynd ymhell
  • Gelyn yw i ddyn ei dda
  • Gellir yfed yr afon ond ni ellir bwyta'r dorlan
  • Genau oer a thraed gwresog a fydd byw yn hir
  • Gloddest awr a newyn blwyddyn
  • Gnawd i feddw ysgwyd llaw
  • Gochel gyfaill a elo'n feistr
  • Gorau aml, aml gardod
  • Gorau arfer, doethineb
  • Gorau caffaeliad, enw da
  • Gorau cam, cam gyntaf
  • Gorau cannwyll, pwyll i ddyn
  • Gorau cof, cof llyfr
  • Gorau coll, enw drwg
  • Gorau cyfoeth, iechyd
  • Gorau Cymro, Cymro oddi cartref
  • Gorau chwedl, gwirionedd
  • Gorau doethineb, tewi
  • Gorau gwraig, gwraig heb dafod
  • Gorau haelioni, rhoddi cardod
  • Gorau prinder, prinder geiriau
  • Gorau trysor, daioni
  • Gorau un tlws, gwraig dda
  • Gormod o ddim nid yw dda
  • Gorwedd yw diwedd pob dyn
  • Gwae a fag neidr yn ei fynwes
  • Gwae leidr a fo gweledig
  • Gwaethaf gelyn, calon ddrwg
  • Gweddw crefft heb ei dawn
  • Gwell amcan gof na mesur saer
  • Gwell bach mewn llaw na mawr gerllaw
  • Gwell bachgen call na brenin ffôl
  • Gwell benthyg nag eisiau
  • Gwell bygwth na tharo
  • Gwell câr yn y llys nag aur ar fys
  • Gwell ci da na dyn drwg
  • Gwell cydwybod na golud
  • Gwell cymydog yn agos na brawd ymhell
  • Gwell digon na gormod
  • Gwell Duw yn gâr na holl lu daear
  • Gwell enw da nag aur dilin
  • Gwell hela â maneg nag â saeth
  • Gwell hanner na dim
  • Gwell hwyr na hwyrach
  • Gwell mam anghenog na thad goludog
  • Gwell migwrn o ddyn na mynydd o wraig
  • Gwell pwyll nag aur
  • Gwell synnwyr na chyfoeth
  • Gwell un awr lawen na dwy drist
  • Gwell un hwde na dau addaw
  • Gwell yr heddwch gwaethaf na'r rhyfel gorau
  • Gwerth dy wybodaeth i brynu synnwyr
  • Gwers gyntaf doethineb; adnabod ei hunan
  • Gwisg orau merch yw gwylder
  • Gwna dda unwaith, gwna dda eilwaith
  • Gŵr dieithr yw yfory
  • Gŵr heb bwyll, llong heb angor
  • Gwybedyn y dom a gwyd uchaf
  • Gwybydd fesur dy droed dy hun
  • Gwyn y gwêl y fran ei chyw
  • Gwynfyd herwr yw hwyrnos

H golygu

  • Hardd ar ferch bod yn ddistaw
  • Harddwch pob hardd, tangnefedd
  • Haul gwanwyn, gwaeth na gwenwyn
  • Hawdd cymod lle bo cariad
  • Hawdd dweud, caled gwneud
  • Haws bodloni Duw na diafol
  • Heb Dduw, heb ddim
  • Heb ei fai, heb ei eni
  • Heb wraig, heb ymryson
  • Hedyn pob drwg yw diogi
  • Hen bechod a wna gywilydd newydd
  • Hir ei dafod, byr ei wybod
  • Hir pob aros
  • Hir yn llanc, hwyr yn ŵr
  • Hwy pery clod na hoedl

I golygu

  • Ionawr cynnes, Mai oer
  • I'r pant y rhed y dŵr

Ll golygu

  • Llaw ddiofal a fydd gwag
  • Llon colwyn ar arffed ei feistres
  • Llon llygod lle na bo cath
  • Llwm yw'r ŷd lle mae'r adwy
  • Llysywen mewn dwrn yw arian

M golygu

  • Mae ffôl yn ymlid ei gysgod
  • Mae meistr ar meistr Mostyn.
  • Mae pont i groesi pob anhawster
  • Mae rhagluniaeth yn fwy na ffawd
  • Mae'r diawl yn dda wrth ei blant
  • Mam ddiofal a wna ferch ddiog
  • Meddu pwyll, meddu'r cyfan
  • Meddwl agored, llaw agored
  • Meistr pob gwaith yw ymarfer
  • Mewn llafur mae elw
  • Mwyaf poen yw poen methu
  • Mwyaf eu trwst, llestri gweigion

N golygu

  • Nac adrodd a glywaist rhag ei fod yn gelwyddog
  • Nac yf ond i ddori syched
  • Na ddeffro'r ci a fo'n cysgu
  • Nerth cybydd yn ei ystryw
  • Nerth gwenynen, ei hamynedd
  • Nes penelin nag arddwrn
  • Ni all neb ddwyn ei geraint ar ei gefn
  • Ni cheir da o hir gysgu
  • Ni cheir gan lwynog ond ei groen
  • Ni chyll dedwydd ei swydd
  • Ni ddaw doe byth yn ôl
  • Ni ddaw henaint ei hunan
  • Ni ddychwel cyngor ynfyd
  • Ni ellir prynu parch
  • Ni saif sach wag
  • Ni wyr dyn ddolur y llall
  • Nid ar redeg mae aredig
  • Nid athro ni ddysg ei hunan
  • Nid aur yw popeth melyn
  • Nid byd, byd heb wybodaeth
  • Nid call, adrodd y cyfan
  • Nid da y peth ni phlyco
  • Nid deallus ond a ddeall ei hunan
  • Nid doeth a ymryson
  • Nid eir i annwn ond unwaith
  • Nid hawdd bodloni pawb
  • Nid hwy oes dyn nag oes dail
  • Nid oes ar uffern ond eisiau ei threfnu
  • Nid o fradwr y ceir gwladwr
  • Nid rhodd rhodd oni bydd o fodd
  • Nid rhy hen neb i ddysgu
  • Nid tegwch heb wragedd
  • Nid yw'r hoff o lyfr yn fyr o gyfaill
  • Nid yw rhinwedd byth yn mynd yn hen

O golygu

  • O ddau ddrwg gorau y lleiaf
  • Oedran a ŵyr fwy na dysg
  • O gyfoeth y daw gofid
  • Oer yw'r cariad a ddiffydd ar un chwa o wynt
  • O mynni brysurdeb, cais long, melin a gwraig
  • Oriadur yw meddwl dyn, a rhaid ei ddirwyn bod dydd
  • Oni byddi gryf, bydd gyfrwys
  • Os rhôi barch ti gei barch

P golygu

  • Pan gyll y call, fe gyll ymhell
  • Pawb a fesur arall wrtho'i hunan
  • Pawb yn aros yr amser, a'r amser nid erys neb
  • Pert pob peth bach ond diawl bach
  • Perth hyd fogel, perth ddiogel
  • Peswch sych, diwedd pob nych
  • Po callaf y dyn anamlaf ei eiriau
  • Po fwyaf y bai, lleiaf y cywilydd
  • Po fwyaf y cwsg, hwyaf yr einioes
  • Pob sorod i'r god ag ef
  • Pob un a gâr lle ceir arian
  • Prinder gorau, prinder geiriau
  • Pritaf o bob prŷn, edifeirwch
  • Pryn wael, pryn eilwaith

Rh golygu

  • Rhaid cael deryn glan i ganu
  • Rhaid cariad yw cerydd
  • Rhaid cropian cyn cerdded
  • Rhaid i'r dderwen wrth gysgod yn ieuanc
  • Rhaid wrth lwy hir i fwyta gyda'r diafol
  • Rhed cachgi rhag ei gysgod
  • Rhwng gwŷr Pentyrch â'i gilydd
  • Rhwng y cŵn a'r clawdd
  • Rhy hwyr galw ddoe yn ôl
  • Rhy uchel a syrth
  • Rhydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei llafar

S golygu

  • Seguryd ni fynn sôn am waith
  • Selni rhai yw eu hiechyd
  • Sylfaen pob rhinwedd - gwirionedd

T golygu

  • Taer yw'r gwir am y golau
  • Tafl garreg at fur, hi a neidia at dy dalcen
  • Tebyg i ddyn fydd ei lwdwn
  • Tecaf fro, bro mebyd
  • Trech cariad na'r cyfan
  • Trech gwlad nag arglwydd
  • Trech serch nag arfau dur
  • Trechaf treisied, gwannaf gwaedded
  • Tri brodyr doethineb: a wrendy, a edrych, a daw
  • Trwy dwll bychan y gwelir goleuni
  • Trydydd troed i hen ei ffon
  • Twyllo arall, twyllo dy hunan

U golygu

  • Ufudd-dod ydyw llwybr bywyd
  • Un celwydd yn dad i gant
  • Utgorn angau yw peswch sych

Y golygu

  • Y ci a gyfarth ni fratha
  • Y ddraig goch ddyry cychwyn
  • Y doeth ni ddywed a ŵyr
  • Yf dy gawl cyn oero
  • Y fesen yn dderwen a ddaw
  • Y groes waethaf yw bod heb yr un
  • Y gwaith a ganmol y gweithiwr
  • Y llaw a rydd a gynnull
  • Y mae gweithred yn well na gair
  • Yng ngenau'r sach y mae cynilo'r blawd
  • Ymhob clwyf y mae pergyl
  • Ymhob gwlad y megir glew
  • Ymhob pen y mae 'piniwn
  • Y mwyaf ei fost, lleiaf ei orchest
  • Yn yr hwyr y mae nabod gweithiwr
  • Yr afal mwyaf yw'r pydraf ei galon
  • Yr euog a ffy heb neb yn ei erlid
  • Yr hen a ŵyr, yr ieuanc a dybia
  • Yr hyn ni wêl y llygad ni flina'r galon