Dafydd ap Gwilym

bardd

Un o feirdd enwocaf Cymru oedd Dafydd ap Gwilym (tua 1315/1320 - tua 1350/1370).

Dyfyniadau gyda ffynhonnell golygu

Dyfyniadau o (gol. Rachel Bromwich) A Selection of Poems (Harmondsworth: Penguin, [1982] 1985).

  • Ni thybiais, ddewrdrais ddirdra,
    Na bai deg f'wyneb a da,
    Yni syniais yn amlwg
    Yn y drych; llyna un drwg!
    • Y Drych


  • Plygu rhag llid yr ydwyf –
    pla ar holl ferched y plwyf!
    am na chefais, drais drawsoed,
    onaddun yr un erioed,
    na morwyn fwyn ofynaig
    na merch fach, na gwrach, na gwraig
    py rusiant, py ddireidi,
    py fethiant, na fynnant fi?
    • Merched Llanbadarn


  • Nid ydyw Duw mor greulon
    Ag y dywaid hen ddynion.
    Ni chyll Duw enaid gŵr mwyn,
    Er caru gwraig na morwyn.
    Tripheth a gerir drwy'r byd:
    Gwraig a hinon ac iechyd.
    Merch sydd decaf blodeuyn
    • "Y Bardd a'r Brawd Llwyd"


  • Cyn rheitied i mi brydu
    Ag i tithau bregethu,
    A chyn iawned ym glera
    Ag I tithau gardota.
    Pand englynion ac odlau
    Yw'r hymnau a'r segwensiau?
    A chywyddau i Dduw lwyd
    Yw sallwyr Dafydd Broffwyd.
    • "Y Bardd a'r Brawd Llwyd"


  • Plygain y darllain deirllith,
    Plu yw ei gasul i'n plith.
    Pell y clywir uwch tiroedd
    Ei lef o lwyn a'i loyw floedd.
    Proffwyd rhiw, praff awdur hoed,
    Pencerdd gloyw angerdd glyngoed.
    • "Y Ceiliog Bronfraith"


  • Ni thybiais, ddewwrdrais ddirdra,
    Na bai deg f'wyneb a da,
    Oni theimlais, waith amlwg,
    Y drych.
    • "Y Drych"


  • Oriau hydr yr ehedydd
    A dry fry o'i dŷ bob dydd,
    Borewr byd, berw aur bill,
    Barth â'r wybr, borthor Ebrill.
    • "Yr Ehedydd"


  • Plygu rhag llid yr ydwyf,
    Pla ar holl ferched y plwyf!
    Am na chefais, drais drawsoed,
    Onaddun' yr un erioed
    Na morwyn fwyn ofynaig,
    Na merch fach, na gwrach, na gwraig.
    • "Merched Llanbadarn"


  • Ni bu amser na charwn…
    Yn y dydd ai un ai dwy.
    • "Merched Llanbadarn"


  • Harddwas teg a'm anrhegai,
    Hylaw ŵr mawr hael yw'r Mai.
    Anfones ym iawn fwnai,
    Glas defyll glân mwyngyll Mai.
    Ffloringod brig ni'm digiai,
    Fflŵr-dy-lis gyfoeth mis Mai.
    • "Mis Mai"


  • Hawddamor, glwysgor glasgoed,
    Fis Mai haf, canys mau hoed.
    Cadarn farchog serchog sâl,
    Cadwynwyrdd feistr coed anial;
    Cyfaill cariad ac adar,
    Cof y serchogion a'u câr;
    Cennad nawugain cynnadl,
    Caredig urddedig ddadl.
    • "Mis Mai a Mis Ionawr"


  • Digrif fu, fun, un ennyd
    Dwyn dan un bedwlwyn ein byd.
    Cydlwynach , difyrrach fu,
    Coed olochwyd, cydlechu,
    Cydfyhwman marian môr,
    Cydaros mewn coed oror,
    Cydblannu bedw, gwaith dedwydd,
    Cydblethu gweddeiddblu gwŷdd.
    Cydadrodd serch â'r ferch fain,
    Cydedrych caeau didrain.
    • "Y Serch Lledrad"


  • Yr wylan deg ar lanw dioer
    Unlliw ag eiry neu wenlloer,
    Dilwch yw dy degwch di,
    Darn fel haul, dyrnfol, heli.
    • "Yr Wylan"


  • Yr wybrwynt helynt hylaw
    Agwrdd drwst a gerdda draw,
    Gŵr eres wyd garw ei sain,
    Drud byd heb droed heb adain.
    • "Y Gwynt"


  • Nythod ddwyn, cyd nithud ddail,
    Ni'th dditia neb, ni'th etail,
    Na llu rhugl, na llaw rhaglaw,
    Na llafn glas na llif na glaw.
    • "Y Gwynt"

Dolenni allanol golygu